Penrhos 1894

Cyllid grant wedi ei sicrhau i adfer tŷ unnos olaf Sir Benfro

Grant funding secured to restore Pembrokeshire’s last surviving tŷ unnos

Rhannu:

Mae Gwasanaeth Amgueddfeydd Cyngor Sir Penfro wedi sicrhau grant o £20,000 gan Ymddiriedolaeth y Pererin i gynnal gwaith cadwraeth ac atgyweiriadau adeiladu hanfodol ar fwthyn hanesyddol yn Sir Benfro.

Bwthyn Penrhos ger Llan-y-cefn, Maenclochog yw’r tŷ unnos olaf i oroesi yn Sir Benfro. Dyma adeilad sydd â gwreiddiau dwfn yn hanes diwylliannol Cymru.

Yn draddodiadol, adeiladwyd tŷ unnos ar dir comin rhwng machlud haul a chodiad haul, yn aml â chefnogaeth y gymuned leol, fel ffordd o ddarparu lloches i’r rhai mewn angen.

Bydd y cyllid yn galluogi contractwyr arbenigol i adfer y tu allan i’r bwthyn hanesyddol, gan gynnwys atgyweiriadau i’r to gwellt traddodiadol, adfer waliau morter calch, gwyngalchu’r adeilad, a gwneud gwelliannau o’i amgylch. Disgwylir i’r cam cyntaf hwn o’r gwaith gychwyn y mis hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr: “Mae hyn yn newyddion gwych i fwthyn Penrhos a’r sir gyfan, gan ychwanegu at yr arlwy hanesyddol a diwylliannol a ddarperir gan Wasanaeth Amgueddfeydd Cyngor Sir Penfro. Mae hwn yn brosiect pwysig—ac yn gam pwysig, gobeithio—tuag at agor y bwthyn yn y dyfodol.”

Dywedodd y Cynghorydd Simon Wright, sy'n cynrychioli ward Maenclochog ar Gyngor Sir Penfro: “Mae'r grant gan Ymddiriedolaeth y Pererinion yn swm gwych i'w dderbyn ar gyfer y gwelliannau sydd eu hangen  yn fawr i Fwthyn Penrhos.

“Mae Cyngor Cymuned Maenclochog wedi brwydro’n galed am gryn amser i gael gafael ar arian ynghyd â 'Cyfeillion Penrhos'. Byddant yn hynod falch o glywed y newyddion da ac yn awyddus i weld y gwaith yn dechrau. Dim ond dechrau ydyw hefyd gan y bydd angen mwy o gymorth grant ac edrychaf ymlaen at weithio gyda Chyngor Cymuned Maenclochog a’r Cyngor Sir i sicrhau'r arian hwnnw."

Penrhos 1970s

Wedi ei adeiladu yn nechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ar ymyl y rhos yn ardal Maenclochog, y bwriad gwreiddiol oedd i fwthyn Penrhos fod yn gartref syml, a’i ailadeiladu wedi hynny gan ddefnyddio deunyddiau mwy parhaol. Parhaodd y bwthyn yn gartref teuluol tan 1968 cyn cael ei gaffael gan yr awdurdod lleol a’i agor fel amgueddfa ar ddechrau’r 1970au.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae pwysau ariannol wedi ei gwneud hi’n gynyddol anodd cynnal a chadw’r adeilad a’i redeg fel amgueddfa. Mewn ymateb, dechreuodd y Gwasanaeth Amgueddfeydd weithio’n agos â’r gymuned leol yn 2023 er mwyn archwilio ffyrdd newydd o reoli a chynnal y safle.

Mae’r prosiect adfer, o’r enw ‘Trysor Cudd: Bwthyn Penrhos: Adfer Tŷ Unnos Olaf Sir Benfro’, yn anelu at sicrhau dyfodol yr adeilad wrth ei ddatblygu fel amgueddfa werthfawr ac ased cymunedol.

Mae’r Gwasanaeth Amgueddfeydd yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Cymuned Maenclochog a grŵp Cyfeillion Penrhos er mwyn cynnal gofal hirdymor ac ymddangosiad y safle, a’i ailagor.

Dywedodd Peter Nicholas, un o gyfeillion Penrhos: ‘Rwyf wrth fy modd bod cyllid wedi ei sicrhau o’r diwedd i ganiatáu i’r atgyweiriadau hanfodol hyn gael eu gwneud ym Mhenrhos. Bydd y gwaith hanfodol hwn yn helpu i ddiogelu dyfodol y bwthyn to gwellt eiconig a thraddodiadol hwn, gan sicrhau y gall cenedlaethau’r dyfodol barhau i’w fwynhau a’i werthfawrogi.’

Penrhos 2012

Dywedodd Cyngor Cymuned Maenclochog fod Penrhos yn un o drysorau cudd Gogledd Sir Benfro sy’n cynnig cipolwg heb ei ail ar orffennol Cymru.

Ychwanegwyd: ‘Rydym wrth ein bodd bod atgyweiriadau arbenigol brys bellach ar waith. Mae ei gadwraeth nid yn unig yn hanfodol ar gyfer cyfanrwydd hanesyddol, ond hefyd ar gyfer addysgu ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.

‘Mae gan fwthyn Penrhos y potensial i ddod yn adnodd cymunedol hanfodol, gan greu cyfleoedd ar gyfer gwirfoddoli, creu partneriaethau, a dysgu ar y cyd.’

Mae’r gwaith yn nodi cam cyntaf gweledigaeth ehangach ar gyfer Penrhos. Gallai camau yn y dyfodol, yn amodol ar gyllid, gynnwys adfer y tu mewn i adlewyrchu bywyd ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, ac adfer gardd wreiddiol y bwthyn.

Yn y pen draw, y nod yw i’r bwthyn fod ar agor yn fwy rheolaidd i ymwelwyr, gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr lleol, tra’n parhau i fod o dan reolaeth gyffredinol Gwasanaeth Amgueddfeydd Cyngor Sir Penfro.

Mae Hefin Wyn, hanesydd lleol ac awdur, yn croesawu’r gwaith ym Mhenrhos hefyd.

Dywedodd: ‘Mae Penrhos yn rhan eiconig iawn o dreftadaeth yr ardal. Mae ei bresenoldeb, gyda’i waliau gwyngalchog, y to gwellt, y dodrefn a’r aelwyd, wedi eu cadw fel yr oeddent pan oedd y trigolion olaf yn byw yno, ac yn ein hatgoffa felly o’n hanes. Mae’r cyfan yn ein hatgoffa o ffordd o fyw a oedd yn gyfarwydd i’n cyndeidiau.

‘Yn wir, mae rhai o’r genhedlaeth hŷn yn dal i gofio John Williams a theulu Penrhos, ac maent yn falch o adrodd y straeon. O ganlyniad, mae Penrhos yn cynrychioli cysylltiad gweladwy â’n gorffennol. Mae beirdd ac awduron fel E. Llwyd Williams a Derfel Rees wedi sôn am ei hynodrwydd.

‘O ganlyniad, o safbwynt treftadaeth, rydym yn awyddus i gadw’r bwthyn fel ag yr oedd, i’w drosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol, fel tystiolaeth o’r hyn a fu.’