Grŵp Tadau poblogaidd yn ychwanegu lleoliadau newydd
Popular Dads’ group adds new venues
Mae menter gan Gyngor Sir Penfro sy'n cefnogi tadau wedi ehangu i ragor o ardaloedd yn y sir.
Mae Dads Together yn cael ei gynnal gan y tîm Ymyrraeth Gynnar ac mae'n gyfle i dadau (a thad-cuod) fynd i’r awyr agored gyda'u babanod a'u plant ifanc mewn amgylchedd hamddenol a chefnogol.
Mae'r grŵp wedi bod yn cael ei gynnal yn Havergardd, gardd gymunedol y dref, ers peth amser ac mae bellach hefyd ar gael yn Nhyddewi a Maenorbŷr. Mae'n gyfle i gwrdd â thadau lleol eraill, sgwrsio a rhannu profiadau yn ogystal â mwynhau chwarae blêr, plannu a thyfu, mewn awyrgylch hamddenol.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau, y Cynghorydd Sam Skyrme-Blackhall: "Mae wedi cael derbyniad cadarnhaol iawn hyd yn hyn, a syniadau gwych gan y tadau eu hunain am y mathau o weithgareddau yr hoffen nhw eu gwneud. Roedd gwneud mwy o ddefnydd o fannau yn yr awyr agored yn uchel ar yr agenda, sy'n wahanol iawn i'r rhan fwyaf o'n grwpiau rhieni a phlant bach sy'n cael eu cynnal gan y Cyngor.
“Mae'n ymddangos bod awydd gwirioneddol i fod â grwpiau tadau yn unig, gan eu bod yn creu deinameg a chyfle gwahanol iawn i greu cysylltiad. Mae'n wych gweld y grwpiau newydd hyn yn cael eu ffurfio a gobeithio y byddan nhw’n cael eu mwynhau gan gymaint o dadau a theidiau â phosibl.”
Mae grŵp Hwlffordd yn cwrdd ddydd Mercher rhwng 9.30am a 11.30am, grŵp Tyddewi ar ddydd Llun rhwng 12.30pm a 2pm yn Erw Dewi gan ddechrau ar 1 Hydref a grŵp Maenorbŷr yn cwrdd yn yr ardd gymunedol yng Nghanolfan Giraldus, ddydd Mercher rhwng 1pm a 2.30pm gan ddechrau ar 23 Medi.
Mae'r tîm hefyd yn treialu grŵp rhieni a phlant bach yn yr awyr agored - Little Explorers - fel y gall mamau gymryd rhan hefyd. Mae croeso i bawb i Ardd Gymunedol Havergardd, ddydd Llun rhwng 9.30am a 11.30am.
I wybod mwy neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Helen ar 07774 900140 neu EYIT@pembrokeshire.gov.uk