Gwaith gwella mawr wedi'i gwblhau yn Fleming Crescent
Major improvement works completed at Fleming Crescent
Mae Cyngor Sir Penfro wedi cwblhau gwaith gwella mawr yn Fleming Crescent, gan ddarparu toeau wedi'u huwchraddio, gwelliannau strwythurol a thechnoleg solar newydd ar dri bloc preswyl.
Mae'r prosiect, sy'n rhan o ymrwymiad ehangach y Cyngor i fuddsoddi mewn cartrefi mwy diogel, cynhesach a mwy effeithlon o ran ynni, wedi gweld ailosod toeau cyfan sy'n gwasanaethu 54 o fflatiau.
Roedd y gwaith hefyd yn cynnwys gwelliannau strwythurol sylweddol i gefnogi perfformiad hirdymor yr adeiladau, ynghyd â gosod paneli solar i wella effeithlonrwydd ynni, lleihau allyriadau carbon a helpu i leihau costau ynni i denantiaid.
Roedd Cyngor Sir Penfro yn falch o dderbyn cyfraniad ariannol gan Lywodraeth Cymru drwy'r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio sy'n helpu i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r gwelliannau effeithlonrwydd ynni ynghyd â gwaith buddsoddi ehangach.
Cwblhawyd yr holl waith ar amser, gyda W B Griffiths & Son Ltd wedi'i benodi'n brif gontractwr oedd yn gyfrifol am gyflawni'r cynllun.
Dywedodd y Cynghorydd Michelle Bateman, yr Aelod Cabinet dros Dai: "Mae cyflawni prosiect ar y raddfa hon ar amser yn gyflawniad sylweddol. Bydd y toeau newydd a'r uwchraddiadau allanol yn helpu i leihau problemau cynnal a chadw yn y dyfodol a gwella gwydnwch hirdymor yr adeiladau, tra bod y paneli solar yn rhan bwysig o'n rhaglen ddatgarboneiddio ehangach. Drwy weithio'n agos gyda W B Griffiths & Son Ltd, rydym wedi cyflawni gwelliannau o ansawdd uchel a fydd o fudd i denantiaid nawr ac yn y dyfodol.
“Mae Cyngor Sir Penfro yn parhau i fuddsoddi mewn gwelliannau tai ledled y sir, gan sicrhau bod cartrefi yn parhau i fod yn ddiogel, yn fodern, yn effeithlon o ran ynni ac yn addas ar gyfer y dyfodol.”
Mae'r prosiect hefyd wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol, ar ôl cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Rhagoriaeth Adeiladu yng Nghymru. Mae'r rhestr fer hon yn adlewyrchu ansawdd uchel y gwaith a chyflawni'r cynllun yn llwyddiannus.
Mae’r lluniau a dynnwyd trwy gydol y prosiect yn dangos graddfa'r trawsnewid, gan gynnwys y gorchudd to newydd a gosod y paneli solar.
Dywedodd Neil Griffiths, Rheolwr Gyfarwyddwr W B Griffiths & Son Ltd: "Rydym yn falch o fod wedi cyflawni'r prosiect pwysig hwn yn Fleming Crescent i safon uchel ac o fewn yr amseroedd y cytunwyd arnynt. Bydd y cyfuniad o ailosod to cyfan a gosod paneli solar yn darparu gwerth hirdymor, yn gwella perfformiad yr adeiladau ac yn cefnogi canlyniadau gwell i breswylwyr. Mae wedi bod yn bleser gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Penfro ar y cynllun hwn.”