Gwaith hanfodol 'Banc Babanod' yn cael ei amlygu yn sgil ymweliad gan Arweinwyr
Crucial work of Baby Bank highlighted by Leader's visit
Mae'r gefnogaeth sy'n newid bywydau, a ddarperir gan Banc Babanod Sir Benfro, wedi cael ei hamlygu yn dilyn ymweliad gan Gynghorwyr hŷn.
Ymwelodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Tessa Hodgson, ac Aelod y Cabinet dros Bobl Ifanc a Lles Cenedlaethau'r Dyfodol, y Cynghorydd Marc Tierney, â'r tîm ym Manc Babanod Sir Benfro yn ddiweddar, er mwyn gweld drostynt eu hunain y gwaith anhygoel maent yn ei wneud ar gyfer teuluoedd ledled y sir.
Wedi ei sefydlu yn 2019, mae Banc Babanod Sir Benfro yn cynorthwyo teuluoedd sy’n ymdrin ag anawsterau ariannol trwy ddarparu eitemau hanfodol ar gyfer babanod a phlant bach, o gewynnau a dillad i ddodrefn a phecynnau cychwynnol cyflawn ar gyfer rhieni newydd.
Y Cynghorydd Tessa Hodgson, Arweinydd Cyngor Sir Penfro: “Roedd yn hyfryd cael ymweld â Banc Babanod Sir Benfro a chwrdd â’r gwirfoddolwyr ymroddedig sy’n gweithio’n ddiflino i gynorthwyo teuluoedd ar draws y sir. Mae’r gofal, y trugaredd a’r cymorth ymarferol y maent yn ei roi yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i rieni a phlant yn ystod rhai o gyfnodau mwyaf heriol bywyd. Hoffwn ddiolch i bawb sy’n rhan o’r fenter am eu hymroddiad a’u gwaith caled, ac am haelioni’r cymunedau lleol sy’n helpu i wneud y gwasanaeth amhrisiadwy hwn yn bosibl.”
Caiff llawer o’r hyn y maent yn ei ddarparu ei gyfrannu’n hael gan gymunedau lleol, gydag eitemau ychwanegol yn cael eu prynu gyda’r arian y maent yn ei godi. Er bod ganddynt ddigonedd o ddillad ar hyn o bryd, mae cyfraniadau ariannol yn arbennig o werthfawr gan eu bod yn helpu’r elusen i brynu eitemau hanfodol a pharhau i gynorthwyo teuluoedd pan fyddant ei angen fwyaf.
Y Cynghorydd Marc Tierney, yr Aelod Cabinet dros Bobl Ifanc a Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol: “Roedd yn fraint wirioneddol cael ymweld â Banc Babanod Sir Benfro a gweld y gwahaniaeth y mae’n ei wneud i deuluoedd ledled y sir. Yr hyn sy’n sefyll allan yw, nid yn unig y gefnogaeth ymarferol sy’n cael ei rhoi, ond y caredigrwydd, yr urddas a’r sicrwydd y mae’n eu rhoi i rieni sy’n mynd drwy gyfnodau anodd. Mae ymroddiad y gwirfoddolwyr yn wirioneddol nodedig ac yn adlewyrchu’r agweddau gorau o’n cymunedau. Fel yr Aelod Cabinet dros Bobl Ifanc a Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, rwy’n gwybod pa mor bwysig yw rhoi’r dechrau gorau posibl i blant, ac mae sefydliadau fel Banc Babanod Sir Benfro yn chwarae rhan hanfodol yn hynny o beth.”
Diolch yn fawr iawn i’r gwirfoddolwyr ymroddedig, y mae eu gwaith caled y tu ôl i’r llenni yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau teuluoedd lleol bob dydd.