English icon English
Gwefan Brynhir o'r awyr

Gwaith i ddechrau ar ddatblygiad tai yn Ninbych-y-pysgod

Work to start at Tenby housing development

Disgwylir i'r gwaith cychwynnol ar ddatblygiad tai Brynhir yn Ninbych-y-pysgod ddechrau'r wythnos hon gyda Morgan Construction Wales.

Mae chwe mis cyntaf y datblygiad wedi'i gyhoeddi a byddant yn cynnwys gwaith galluogi safle, gwaith mynediad newydd gan gynnwys cyffordd i’r briffordd a ffordd fynediad newydd, ac uwchraddio Ffordd Arberth.

Bydd y cam gwaith galluogi yn cynnwys clirio’r safle yn unol â Chynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu cymeradwy a chyfyngiadau trwydded Rhywogaethau Ewropeaidd.

Mae wyth cam wedi'u cynllunio ar hyn o bryd, gan ganiatáu i gartrefi fod ar gael yn gynt. Disgwylir y bydd y datblygiad yn cael ei gwblhau yn 2029.

Bydd cyfanswm o 125 o gartrefi yn cael eu hadeiladu gan Gyngor Sir Penfro ym Mrynhir.

Bydd y cartrefi hyn yn amrywio o ran maint ac yn cynnwys 93 o dai fforddiadwy (rhent cymdeithasol a chanolradd), 16 dan berchnogaeth a rennir, ac 16 o dai marchnad agored.  

Hefyd, bydd y datblygiad hwn yn cynnwys amrywiaeth o ardaloedd chwarae a hamdden ffurfiol ac anffurfiol ledled y safle, gyda chysylltiadau uniongyrchol â'r dref.

Dywedodd y Cynghorydd Michelle Bateman, yr Aelod Cabinet ar faterion Tai: "Rydym yn falch iawn o weld y gwaith yn dechrau ar y datblygiad allweddol hwn o dai fforddiadwy ar gyfer Dinbych-y-pysgod a'r ardaloedd cyfagos.”

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn, neu unrhyw ddatblygiad arall, cysylltwch â'r Tîm Datblygu Tai drwy devclo@pembrokeshire.gov.uk neu 01437 764551.