English icon English
Ysgol Greenhill Google Maps

Gwaith yn dechrau i fynd i’r afael a materion strwythurol yn Ysgol Greenhill

Works begin to address structural issues at Ysgol Greenhill

Mae gwaith brys i fynd i'r afael â materion strwythurol yn Ysgol Greenhill yn Ninbych-y-Pysgod wedi dechrau a bydd yn mynd rhagddo dros y misoedd nesaf.

Yn naturiol, mae'r ysgol wedi derbyn gohebiaeth gan rieni pryderus ac mae'r Pennaeth yn ymateb i'r pryderon hyn mewn llythyr a fydd yn mynd allan at yr holl rieni/gofalwyr heddiw (2 Mai 2025).

Mae'r Cyngor yn darparu'r gefnogaeth angenrheidiol i'r ysgol i sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn ddiogel ac yn drylwyr, ac mae'n gefnogol i weithredoedd y Pennaeth i sicrhau bod pob rhiant/gofalwr yn cael ei hysbysu'n llawn o'r sefyllfa.

Rhagwelir y bydd y gwaith yn parhau trwy gydol tymor yr haf ac yn cael ei gwblhau erbyn y flwyddyn academaidd newydd.

Bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i leihau'r effaith ar addysgu a dysgu, yn enwedig yn ystod cyfnod yr arholiadau allanol.

Bydd y Pennaeth yn rhoi diweddariadau pellach i rieni/gofalwyr maes o law.