English icon English
Gwarchodfa Natur Cors Wdig

Gwarchodfa Natur Cors Wdig yn Ailagor i’r Cyhoedd

Goodwick Moor Nature Reserve Reopens to the Public

Ar ôl bod ar gau am 6 blynedd, mae Gwarchodfa Natur Cors Wdig wedi ailagor gan arddangos llwybr pren newydd 500m o hyd a phwll bywyd gwyllt newydd.

Caewyd y warchodfa a reolir gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru i’r cyhoedd yn 2016 ar ôl difrod ac aflonyddu ar fywyd gwyllt a achoswyd gan feiciau modur, beicwyr a chŵn oddi ar y tennyn.  Yn ystod yr wythnos cyn iddi gau, gwelwyd marchogion yn defnyddio’r llwybr pren hefyd a achosodd fwy o ddifrod iddo. Wrth sôn am y warchodfa, dywedodd rheolwr gwarchodfeydd yr Ymddiriedolaeth Natur, Nathon Walton, ‘Ni chafodd y parch yr oedd arni ei angen gan nifer o wahanol ddefnyddwyr a’i gwnaeth yn anniogel ar gyfer defnydd cyffredinol, ac roedd cŵn oddi ar y tennyn wedi arwain at lefelau annerbyniol o aflonyddu ar fywyd gwyllt, yn enwedig adar sy’n nythu ar y ddaear.’ Roedd arwyddion a oedd yn gofyn i berchnogion gadw cŵn ar dennyn wedi cael eu symud ymaith yn aml.

Aeth Mr Walton ymlaen i ddweud ‘Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Gwarchodfa Natur Rhos Wdig yn ailagor gyda llwybr pren 500m newydd sy’n dilyn trywydd ychydig yn fyrrach na’r llwybr pren blaenorol. Mae’r trywydd newydd hwn yn osgoi’r ardaloedd bywyd gwyllt mwy sensitif a hefyd yn arwain cerddwyr heibio i bwll bywyd gwyllt newydd ei greu sydd o fudd i adar, amffibiaid, infertebratau a phlanhigion dyfrol.’

Mae’r safle’n cael ei hyrwyddo fel gwarchodfa natur y gall pobl gael mynediad iddi i’w mwynhau. Gofynnir i gŵn fod ar dennyn bob amser os ydynt yn y warchodfa. Mae’r llwybr pren newydd wedi’i wneud o blastig wedi’i ailgylchu ac fe ddylai bara am ddegawdau lawer os na chaiff ei gam-drin.

Ariannwyd y llwybr pren a’r pwll a grëwyd yn Rhos Wdig yn llwyr gan grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru i Bartneriaeth Natur Sir Benfro, a gynhelir gan Gyngor Sir Penfro. Cyflawnwyd y prosiect yn y warchodfa ar y cyd gan yr Ymddiriedolaeth Natur a Chyngor Sir Penfro. Dywedodd Aethne Cooke o Bartneriaeth Natur Sir Benfro ‘Ni ellir gorbwysleisio gwerth Gwarchodfa Natur Rhos Wdig i’r gymuned leol. Mae’n ardal bwysig ar gyfer natur wedi’i lleoli o fewn pellter cerdded a golwg o drefi Abergwaun ac Wdig. Rydym yn falch o fod wedi bod mewn sefyllfa i gael budd o gyllid Llywodraeth Cymru i adfer mynediad i’r warchodfa fel y gall pobl ymdrwytho yn yr amgylchedd gwlyptir naturiol. Rydym hefyd yn ddiolchgar i’r Cyngor am eu cyngor a’u harweiniad wrth gyflawni’r prosiect’.

 

Mae’r warchodfa wedi’i lleoli islaw cefnffordd yr A40 rhwng Wdig ac Abergwaun ac fe’i cyrhaeddir ar hyd hawl dramwy gyhoeddus o’r A40 (Cyfeirnod Grid: SM 94898 37541) gerllaw Gwesty Seaview yn Wdig.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Nathan Walton, Rheolwr Gwarchodfeydd y Gorllewin a Swyddog Ymddiriedolaeth Natur ar gyfer Sir Benfro (n.walton@welshwildlife.org)

Nodiadau i olygyddion

- Cyngor Sir Penfro sy’n berchen ar Ros Wdig ac fe’i rheolir gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru fel gwarchodfa natur ar sail prydles tymor hir.

- Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru - https://www.welshwildlife.org/nature-reserves/goodwick-moor

- Partneriaeth Natur Sir Benfro - https://www.pembrokeshire.gov.uk/biodiversity Mae llawer o sefydliadau’n cydweithio yn Sir Benfro i gynnal a gwella nodweddion naturiol lleol. Gyda’i gilydd, maen nhw’n ffurfio Partneriaeth Natur Sir Benfro. Mae Partneriaeth Natur Sir Benfro yn adeiladu ar bartneriaethau a mentrau presennol a hefyd yn datblygu rhwydweithiau a dulliau newydd i gyflawni cadwraeth natur yn Sir Benfro. Mae partneriaeth Natur Sir Benfro yn cael ei chynnal gan Gyngor Sir Penfro.

- Grant cyfalaf 100% yw grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru a ddosberthir trwy Bartneriaethau Natur Lleol yng Nghymru. https://lnp.cymru/