Gwasanaeth parcio a theithio Dinbych-y-pysgod yn dychwelyd ar gyfer yr haf
Tenby park and ride service returns for summer
Mae gwasanaeth parcio a theithio blynyddol Dinbych-y-pysgod yn dychwelyd o ddydd Sadwrn 20 Gorffennaf.
Bydd y gwasanaeth defnyddiol a weithredir gan Gyngor Sir Penfro yn rhedeg rhwng 11am a 6pm bob dydd tan ddydd Gwener 13 Medi.
Bydd y bysiau'n gweithredu o faes parcio'r Salterns ac yn galw yn The Green and South Parade.
Mae'r gwasanaeth bysiau yn rhad ac am ddim a dim ond talu am barcio fel arfer y bydd angen i gwsmeriaid ei wneud.
Mae bysiau'n rhedeg bob 15 munud (ac eithrio un egwyl i’r gyrrwr am 45 munud y dydd, a gymerir pan fo'r galw'n caniatáu).