English icon English
Athrawon yn Ysgol Gynradd Aberdaugleddau yn dysgu iaith arwyddion

Gwasanaeth Synhwyraidd yn Sir Benfro yn lansio gwersi BSL a hyfforddiant ymwybyddiaeth o fyddardod mewn ysgolion

Sensory Service in Pembrokeshire launches BSL lessons and deaf awareness training in schools

Mae Gwasanaeth Synhwyraidd Sir Benfro wrth ei fodd o fod wedi llwyddo i ddarparu gwersi Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a hyfforddiant ymwybyddiaeth o fyddardod mewn sawl ysgol.

Deaf Friendly Limited oedd yn cyflwyno’r gwersi, sy’n arbenigo mewn addysgu BSL ac arwyddion rhanbarthol Cymru.

Catherine Davies arweiniodd y fenter hon, cyn athrawes plant byddar o Sir Benfro, a weithiodd gyda Partneriaeth – y bartneriaeth addysg ranbarthol – ac sy’n arwain o siroedd eraill ochr yn ochr â Deaf Friendly Limited.

Cydweithiodd y bartneriaeth ar nodau'r prosiect a sicrhaodd arian ar gyfer rhan gyntaf yr hyn a ddaeth yn brosiect BSL tair sir.

Gweledigaeth y prosiect hwn yw galluogi dysgwyr i gyfathrebu'n effeithiol gan ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ac i hyrwyddo dealltwriaeth a thegwch ar draws diwylliannau a chymunedau.

Mae canllawiau fframwaith Cwricwlwm i Gymru ar gyfer BSL yn arwain y cynllun strategol hwn.

Mae blaenoriaethau’r prosiect yn cynnwys meithrin gallu mewn ysgolion i gyflwyno BSL yn y Cwricwlwm i Gymru a chefnogi cynaliadwyedd a dilyniant BSL mewn ysgolion.

Dywedodd Annette Thomas, Arweinydd Tîm Synhwyraidd a Saesneg fel Iaith Ychwanegol: “Mae BSL yn iaith fendigedig a chyflawn, ac mae’n ddefnyddiol i bob plentyn ei dysgu. Mae'n helpu plant mor ifanc â chwe mis oed i gyfathrebu â'u rhieni a gellir ei defnyddio hyd at henaint.

“Mae’n gwella cyfathrebu hyd yn oed os yw’r plentyn yn mynd ymlaen i ddysgu ieithoedd llafar eraill ac mae’n wych gweld ein hysgolion yn dysgu BSL ac yn cofleidio ymwybyddiaeth o fyddardod.”

Roedd yr ysgolion a gymerodd ran yng ngham cyntaf y prosiect yn cynnwys Ysgol Gynradd Gymunedol Aberdaugleddau, Ysgol Uwchradd Aberdaugleddau ynghyd ag Ysgol Arbennig Portfield, Sageston, yr Enw Sanctaidd, Gelli Aur, St Aidans a Cosheston yn ogystal â lleoliadau Blynyddoedd Cynnar.

Cafodd ei gyflwyno gan Sarah Lawrence, perchennog Deaf Friendly Limited, gyda chwe athro (un cynradd ac un uwchradd o bob awdurdod lleol) yn cymryd rhan.

Dysgodd yr athrawon BSL mewn amgylchedd trochi, gan adeiladu ar fodelau hyfforddi Cymraeg llwyddiannus, a chyflawnon nhw BSL Lefel 2, gan ragori ar y nod cychwynnol o gyflawni Lefel 1.

Mae rhai o’r athrawon hynny bellach yn dysgu BSL Lefel 3 a’r gobaith hirdymor yw y bydd staff ysgolion uwchradd yn parhau hyd at Lefel 6, gan ganiatáu iddynt addysgu BSL i ddysgwyr ar lefel TGAU.

BSL training 2

Dywedodd Janette Reynold, Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Aberdaugleddau: “Cafodd disgyblion yn nhymor yr haf gyfle gwych i ddysgu BSL ac arweiniodd hyn at ddisgyblion yn recordio arwydd o’r wythnos a oedd wedyn yn cael ei rannu gyda’r staff ac ar ein platfform cyfryngol cymdeithasol.

“Mae staff wedi derbyn hyfforddiant y tymor hwn a gefnogwyd gan y tîm yn Deaf Friendly, sydd wedi cynyddu ein dealltwriaeth a’n gwybodaeth. Fel ysgol, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu BSL sylfaenol dros y blynyddoedd nesaf yn ein cymuned.”

Ychwanegodd Kathryn Adams, Pennaeth Cosheston a St Aidan: “Mae’r staff a’r plant wedi gwirioni ar y gweithdai yn y ddwy ysgol. Mae wedi eu gwneud yn fwy ymwybodol o sut mae angen iddynt gyfathrebu â phlant yn y ddwy ysgol sydd ag anawsterau clyw.

“Mae wedi bod yn amhrisiadwy i’r plant hynny gan ei fod wedi golygu bod pob disgybl yn gallu rhannu gwybodaeth gan ddefnyddio arwyddion ac mae wedi ein gwneud hyd yn oed yn fwy cynwysedig. Mae disgyblion Blwyddyn 6 wrth eu boddau yn arwyddo gydag un o’n dysgwyr byddar nawr.”

I gael rhagor o wybodaeth am y fenter hon, cysylltwch ag Annette Thomas drwy e-bost Annette.Thomas@pembrokeshire.gov.uk

Nodiadau i olygyddion

Mae Sarah Lawrence yn berchen ar Deaf Friendly Limited ac yn ei rhedeg. Yn fyddar oherwydd salwch pan oedd hi'n dair oed, cafodd Sarah ei geni, ei magu a'i haddysgu yn Ne Cymru.

Ar ôl gadael yr ysgol a dechrau gweithio ym maes dylunio graffeg, sefydlodd Sarah Deaf Friendly Limited o Gaerffili yn ei hugeiniau cynnar mewn ymateb i dri achos o wahaniaethu amlwg yn y gweithle.

Bron i ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, mae Sarah yn athrawes BSL hynod fedrus, yn hyfforddwr Ymwybyddiaeth o Fyddardod ac yn ymgyrchydd dros hawliau Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Pam BSL?

Ar hyn o bryd mae tua 12 miliwn o bobl yn y DU yn fyddar neu'n drwm eu clyw.

Erbyn 2025, y rhagfynegiadau yw y gallai fod tua 14.2 miliwn

Nifer yr achosion o fyddardod a cholli clyw - RNID

Mae BSL yn sgil bywyd hanfodol ar gyfer y dyfodol i bawb.

Nid iaith i bobl fyddar yn unig yw BSL.


Mae Camau Cynnydd BSL wedi'u cynllunio o amgylch y cwricwlwm newydd.

Gall addysgu BSL helpu i gyflawni’r pedwar diben craidd:

  • Dysgwyr uchelgeisiol a galluog
  • Unigolion iach, hyderus
  • Cyfranwyr mentrus a chreadigol.
  • Dinasyddion moesegol a gwybodus