tai

Gwasanaeth Tai Ar-lein Newydd i roi gwybod am atgyweiriadau wedi'u lansio ar gyfer tenantiaid Cyngor Sir Penfro

New Housing Online service to report repairs launched for Pembrokeshire County Council tenants

Rhannu:

Mae Cyngor Sir Penfro yn falch o gyhoeddi lansiad Tai Sir Benfro Ar-lein, a fydd yn caniatáu i denantiaid gadw eu manylion cyswllt yn gyfredol, rhoi gwybod am unrhyw newidiadau ac threfnu gwaith atgyweirio tai ar-lein.

Mae Tai Sir Benfro Ar-lein yn ei gwneud hi'n haws i breswylwyr reoli eu hanghenion tai drwy gynnig cyfle i roi gwybod am anghenion atgyweirio tai arferol ar unrhyw adeg ar-lein a threfnu i’r gwaith gael ei wneud.

Mae negeseuon testun yn ategu'r gwasanaeth trwy ddarparu gwybodaeth am apwyntiadau ac i atgoffa tenantiaid am ymweliad sydd wedi'i gynllunio.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai, y Cynghorydd Michelle Bateman: "Mae'r newidiadau hyn i Tai Ar-lein yn cynnig cyfle gwirioneddol i denantiaid reoli eu gwaith atgyweirio tai a sicrhau bod manylion cyswllt allweddol yn parhau i fod yn gyfredol a fydd yn helpu i rannu gwybodaeth yn effeithiol rhwng y tenant a'r Cyngor am apwyntiadau.”

Rhaid rhoi gwybod am atgyweiriadau brys drwy gysylltu ar 01437 764551 rhwng 9am a 5pm a 0345 601 5522 (5pm – 9am, dydd Llun i ddydd Gwener, 24 awr dydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc).

Gellir mynd at Tai Ar-lein drwy fynd i https://www.sir-benfro.gov.uk/atgyweirio-a-chynnal-tair/rhoi-gwybod-am-atgyweiriad.

Camau pwysig os oes gennych gais cofrestr dai gyfredol:

Er mwyn parhau i dderbyn hysbysebion eiddo wythnosol trwy e-bost, rhaid i'r rhai sydd â chais cofrestr tai byw ddiweddaru eu dewisiadau e-bost trwy Fy Nghyfrif Cyngor Sir Penfro.

Ewch i:
https://www.sir-benfro.gov.uk/gwasanaethau-digidol/creu-fy-nghyfrif-newydd

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y porth Tai Ar-lein newydd neu sut y gall y newidiadau hyn effeithio arnoch chi, cysylltwch â ni ar y ffôn ar 01437 764551 neu drwy e-bost yn housing@pembrokeshire.gov.uk