Ffeil Vape Pic

Ymgyrch Machinize: Gweithrediad aml-asiantaeth yn targedu masnachu anghyfreithlon yn Sir Benfro

Operation Machinize: Multi-agency operation targets illegal trading in Pembrokeshire

Rhannu:

Yn ddiweddar, cymerodd Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir Penfro ran mewn gweithrediad gorfodi amlasiantaeth wedi’i gydlynu mewn nifer o adeiladau masnachol yn Sir Benfro.

Cynhaliwyd yr ymgyrchoedd aml-asiantaeth fel rhan o Ymgyrch Machinize, y prosiect parhaus a gydlynir gan Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol i fynd i'r afael â gwyngalchu arian a defnydd troseddol o fusnesau ar y stryd fawr sy'n defnyddio llawer o arian parod.

Roedd y cam gweithredu yn rhan o ymdrechion parhaus i fynd i'r afael â gwerthu a dosbarthu tybaco anghyfreithlon, nwyddau ffug a nwyddau nad ydynt yn cydymffurfio, a gweithgarwch troseddol arall a all niweidio cymunedau lleol a busnesau cyfreithlon.

Yn ystod yr ymgyrch, atafaelwyd tybaco anghyfreithlon gan CThEF, sicrhawyd cynhyrchion ffug a rhai nad ydynt yn cydymffurfio gan Safonau Masnach, ac ymgymerodd asiantaethau partner â gweithgarwch gorfodi o fewn eu meysydd cyfrifoldeb perthnasol.

Mae ymchwiliadau'n parhau ac mae'r Cyngor ar hyn o bryd yn ystyried camau gorfodi priodol ar y cyd ag asiantaethau partner.

Mae Cyngor Sir Penfro yn parhau i ymrwymo i weithio'n agos gyda phartneriaid gorfodi i amddiffyn defnyddwyr, cefnogi busnesau cyfreithlon ac amharu ar weithgarwch masnachu anghyfreithlon ledled y sir.