Gwell diogelwch taliadau yn dod yn fuan
Improved payment security coming soon
Mae Cyngor Sir Penfro yn cyflwyno uwchraddiad i'w system dalu i'w gwneud hyd yn oed yn fwy diogel ac yn barod ar gyfer y dyfodol.
Bydd y system PAY360 yn symud i blatfform cwmwl diogel sy'n bodloni safonau llym y diwydiant. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod yr holl daliadau yn parhau i fod yn ddiogel ac yn cydymffurfio'n llawn â gofynion DSS Diwydiant y Cardiau Talu.
Fel rhan o'r newid hwn, bydd cwsmeriaid sy'n talu dros y ffôn yn nodi manylion eu cerdyn gan ddefnyddio’r rhifau ar y ffôn, yn hytrach nag ar lafar dros y ffôn. Mae hyn yn helpu i ddiogelu gwybodaeth bersonol ac yn lleihau'r risg o dwyll.
Sylwer: ni fydd y system taliadau dros y ffôn ar gael ddydd Mercher, 27 Mai tra bydd yr uwchraddiad yn digwydd. Yn ystod y cyfnod hwn, gellir gwneud taliadau o hyd:
- ar-lein trwy Fy Nghyfrif, heblaw am arlwyo heb arian parod.
- trwy'r llinell dalu awtomataidd ar 01437 775164. Gallwch wneud taliadau ar gyfer y Dreth Gyngor, ardrethi busnes, rhent tai a phrydau ysgol, yn ogystal ag unrhyw filiau sydd â rhif cyfeirnod sy'n dechrau M (amrywiol) neu P (cyfnodol), drwy'r gwasanaeth hwn.
Ni fydd yr uwchraddiad hwn yn effeithio ar Ganolfannau Hamdden a gwasanaethau’r Cofrestrydd.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gadw gwasanaethau talu yn ddiogel, a gall cwsmeriaid barhau i wneud taliadau yn hyderus.