Gwella eich band eang gyda chymorth Cynllun Allwedd Band Eang Cymru Llywodraeth Cymru
Improve your broadband with help from Welsh Government’s Access Broadband Cymru Grant Scheme
Ym mis Mai eleni, ailagorodd Llywodraeth Cymru geisiadau ar gyfer ei chynllun grant Allwedd Band Eang Cymru (ABC), gan gynnig cymorth ariannol i helpu cartrefi a busnesau ledled Cymru i gysylltu â band eang cyflym a dibynadwy.
Os yw eich cyflymder lawrlwytho band eang presennol yn llai na 30Mbps, gallech chi fod yn gymwys i gael grant o hyd at £800 tuag at gost gosod ac offer uwchraddio'ch gwasanaeth.
Mae'r cynllun ABC yn helpu pobl i gael mynediad at ystod o dechnolegau band eang amgen, gan gynnwys datrysiadau diwifr a lloeren, gan sicrhau bod pawb, waeth ble maen nhw'n byw neu'n gweithio, yn gallu elwa o gysylltedd digidol.
Gall preswylwyr a busnesau wirio eu cymhwysedd, dysgu pa gostau sy'n cael eu talu, a chyflwyno cais ar-lein drwy wefan Llywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth neu gyngor, cysylltwch â'ch Hyrwyddwr Digidol lleol sy'n gallu rhoi arweiniad ar yr opsiynau band eang sydd ar gael a'ch cyfeirio at Dîm Cymorth Band Eang Llywodraeth Cymru os oes angen help arnoch chi gyda'ch cais.