Gwnewch gais nawr am brydau ysgol am ddim i ddysgwyr cymwys ym Mlynyddoedd 7 ac 8
Apply now for free school meals for eligible Year 7 and 8 learners
Mae darpariaeth prydau ysgol am ddim o hyd at £3 y dydd bellach yn cynnwys dysgwyr cymwys ym Mlynyddoedd 7 ac 8.
O 2 Tachwedd bydd yr arian yn cael ei uwchlwytho i gerdyn arlwyo di-arian pobl ifanc cymwys bob bore yn ystod y tymor.
Gall unrhyw riant neu ofalwr sy'n derbyn Credyd Cynhwysol wneud cais am y ddarpariaeth, ac nid oes unrhyw derfyn ar incwm ar gyfer yr hawl estynedig.
Mae ceisiadau bellach ar agor a byddant yn parhau i gael eu derbyn ar ôl i'r cynllun ddechrau fis nesaf. Os ydych eisoes wedi gwneud cais, nid oes angen i chi ailymgeisio.
Tan hynny bydd angen i chi barhau i roi arian yn y cyfrif arlwyo di-arian.
Ni fydd y rhai sy'n derbyn £3 y dydd ar ôl 2 Tachwedd yn cael cario unrhyw lwfans drosodd, a rhieni neu ofalwyr sy’n gyfrifol o hyd am ychwanegu arian i’r cyfrif os yw eich plentyn yn prynu gwerth mwy na £3 y diwrnod.
Ewch i'n tudalen we Ysgolion a Dysgu (yn agor mewn ffenestr newydd) i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais cyn gynted â phosibl.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Paul Miller: "O 2 Tachwedd, bydd dysgwyr ysgol uwchradd cymwys y mae eu teuluoedd yn derbyn Credyd Cynhwysol yn gallu elwa o'r estyniad pwysig hwn i brydau ysgol am ddim.
“Byddwn yn annog pob rhiant a gofalwr a allai fod yn gymwys i wirio eu hawl a chofrestru cyn gynted â phosibl fel y gall eu plentyn fanteisio ar y cyfle gwych hwn ar ôl yr hanner tymor sydd i ddod. Mae pob dysgwr cymwys yn haeddu'r gefnogaeth sydd ar gael iddynt, a bydd y fenter hon yn helpu teuluoedd wrth sicrhau bod pobl ifanc yn cael digon o fwyd maethlon, yn barod i ddysgu ac yn gallu ffynnu.
“Mae'r fenter hon yn ymwneud â llawer mwy na darparu pryd o fwyd. Mae cael bwyd maethlon, iach yn helpu pobl ifanc i ganolbwyntio, cymryd rhan mewn dysgu, a chyflawni eu potensial llawn yn yr ystafell ddosbarth. Drwy sicrhau bod mwy o ddysgwyr yn cael pryd o fwyd cytbwys yn ystod y diwrnod ysgol, rydym yn helpu i gael gwared ar rwystrau i ddysgu a chefnogi eu hiechyd, eu lles a'u canlyniadau addysgol.
“Mae hwn yn gam cadarnhaol ymlaen sy'n dangos ein hymrwymiad i gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd ledled Sir Benfro, gan helpu dysgwyr i gael y cyfle gorau posibl i lwyddo."
Mae trothwy incwm yn parhau i fod ar waith ar gyfer cymhwysedd ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgol (yn agor mewn ffenestr newydd).