Cafodd y tîm comisiynu eu gwobr Efydd Buddsoddwr mewn Gofalwyr gan Penny Muir

Gwobr efydd i dîm sy'n cefnogi gofalwyr

Bronze award for team supporting carers

Rhannu:

Mae tîm comisiynu Cyngor Sir Penfro wedi derbyn gwobr efydd Buddsoddwyr mewn Gofalwyr.

Mae aelodau'r gwasanaeth gofal cymdeithasol Comisiynu Strategol ar y Cyd wedi cael eu cydnabod am eu gwaith yn mabwysiadu a hyrwyddo arfer gorau wrth nodi a chefnogi gofalwyr di-dâl.

Mae'r cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr yn fenter ranbarthol gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sy'n gynllun sicrhau ansawdd i gydnabod yr arfer gorau ar draws ystod o leoliadau.

Mae'n cael ei gefnogi gan bartneriaid awdurdodau lleol a'r trydydd sector yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Cynlluniwyd y fenter Buddsoddwyr mewn Gofalwyr yn wreiddiol i helpu cyfleusterau iechyd fel meddygfeydd teulu, ardaloedd o fewn ysbytai a sefydliadau eraill i ganolbwyntio ar a gwella ymwybyddiaeth o’u gofalwyr.

Mae'r cynllun hwn bellach wedi ymestyn i lawer o dimau, gwasanaethau a sefydliadau eraill. Mae'n gynllun sy'n darparu sylfaen ar gyfer helpu i adnabod a chefnogi gofalwyr di-dâl o bob oed.

Aseswyd y tîm comisiynu yn erbyn y chwe thema o fewn y cynllun: Arweinydd Gofalwyr, Hyfforddiant Staff, Nodi, Gwybodaeth a Chymorth i ofalwyr a Gwerthuso.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol a Diogelu, y Cynghorydd Tessa Hodgson: "Mae gofalwyr yn ein cymunedau yn aml yn arwyr sy’n rhoi cefnogaeth i lawer o bobl ym mhob agwedd ar fywyd. Dylai'r tîm yng Nghyngor Sir Penfro fod yn falch iawn o gael eu hymrwymiad a'u cefnogaeth i'n gofalwyr yn cael eu cydnabod gyda'r wobr hon.”

Gofalwr yw rhywun, o unrhyw oedran, sy'n darparu cymorth di-dâl i deulu neu ffrindiau na allai ymdopi heb y cymorth hwn. Gallai hyn fod yn gofalu am berthynas, partner neu ffrind sy'n sâl, yn fregus, yn anabl neu sydd â phroblemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau. Gall unrhyw un ddod yn ofalwr; yn y rhan fwyaf o achosion, nid yw dod yn ofalwr yn ddewis, mae’n digwydd.

I gael rhagor o wybodaeth a gwybodaeth ddefnyddiol am ofalwyr di-dâl, ewch i

Gofalwyr di-dâl - Cyngor Sir Penfro