Gwobr y Brenin i sefydliad teuluol sy'n cefnogi pobl ifanc
King’s Award for family foundation supporting young people
Mae sefydliad cymorth iechyd meddwl a sefydlwyd o ganlyniad i drychineb teuluol wedi derbyn anrhydedd Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol.
Derbyniodd Sefydliad Megan’s Starr y wobr fawreddog am ei waith pwysig yn cefnogi pobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl yn Aberdaugleddau a ledled Sir Benfro.
Sefydlodd Nicola Harteveld y sefydliad wedi marwolaeth ei merch Megan, a gymerodd ei bywyd ei hun, yn drist iawn, yn 2017 ar ôl dioddef problemau iechyd meddwl.
Mae cryfder Nicola wrth gefnogi eraill er gwaethaf y digwyddiadau trasig wedi ei gydnabod gan Wobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol.
Ymunodd Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Dyfed, Miss Sara Edwards â Nicola, ei theulu, a gwirfoddolwyr Megan’s Starr i gyflwyno'r wobr yng nghaffi Dizzy Bear ar lannau’r dŵr yn Aberdaugleddau ddydd Llun, 30 Mawrth.
Rhoddodd y Dirprwy Arglwydd Raglaw Dr Chris Martin OBE DL yr anerchiad agoriadol, ac roedd Uchel Siryf Dyfed, Mr Andew Phillips, hefyd yn bresennol yn ogystal â Chadet yr Arglwydd Raglaw Aeron James.
Dywedodd Nicola: "Rydyn ni’n hynod falch o rannu bod Sefydliad Megan’s Starr wedi cael ei anrhydeddu â Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol 2025.
“Mae'r anrhydedd genedlaethol fawreddog hon yn adlewyrchu ymroddiad, tosturi ac ymrwymiad diflino ein gwirfoddolwyr anhygoel, sy'n rhoi eu hamser a'u hegni i gefnogi pobl ifanc trwy rai o heriau anoddaf bywyd.
“Ac yn bennaf oll, mae'n perthyn i Megan. Mae ei harddwch, ei charedigrwydd a'i chariad yn parhau ym mhopeth a wnawn.”
Ychwanegodd yr Arglwydd Raglaw: "Roedd yn bleser cyflwyno Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol i grŵp o wirfoddolwyr haeddiannol iawn. Mae'r gwaith y mae Nicola a Sefydliad Megan's Starr yn ei wneud yn cael effaith bwysig ar bobl ifanc yr ardal a dylent fod yn hynod falch.”
Yn cyfateb i MBE, Gwobr y Brenin am Wasanaethau Gwirfoddol yw'r wobr uchaf a roddir i grwpiau gwirfoddol lleol yn y DU, ac maent yn cael eu dyfarnu am oes.
Yn 2025, roedd Megan's Starr yn un o ddim ond pum sefydliad yng Nghymru i dderbyn y Wobr.
Wedi'i chreu yn 2002 i ddathlu Jiwbilî Aur y Frenhines Elizabeth II ac a elwid gynt yn Wobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol, mae'r Wobr wedi bod yn taflu goleuni ar waith gwych grwpiau gwirfoddol o bob cwr o'r DU ers blynyddoedd lawer.
Yn y llun gydag Arglwydd Raglaw Dyfed, Miss Sara Edwards, mae Nicola Harteveld, yr Uchel Siryf Andrew Phillips, y Cadet Aeron James, Dr Chris Martin a gwirfoddolwyr Sefydliad Megan’s Starr.