English icon English
Rubbish outside Wavell Crescent

Gwrandawiad llys i orfodi clirio gwastraff gormodol

Court hearing to force clear up of excess waste

Rhoddwyd dirwy gan y llys i denant y Cyngor yn Noc Penfro am fethu â chlirio gwastraff gormodol o’r ardd.

Cyhoeddwyd Hysbysiad Gwarchod y Gymuned i Sheena Deacon i gael gwared ar wastraff a oedd wedi cronni yn ei chartref yn Wavell Crescent ond ni chafodd ei glirio.

Roedd y gwastraff a oedd wedi cronni yng ngardd yr eiddo yn achosi pla cnofilod ac roedd yn berygl i iechyd.

Fe wnaeth adran Iechyd y Cyhoedd a Diogelu'r Cyhoedd y Cyngor ymgysylltu â'r tenant, a chynnal ymchwiliadau cyn cyhoeddi'r hysbysiad.

Ynsgil hyn cyflwynodd Cyngor Sir Penfro Hysbysiad Gwarchod y Gymuned. Gan na gydymffurfiwyd â hwnnw ychwaith, fe arweiniodd at wrandawiad llys.

WavellCrescent2

Ni ddaeth y tenant Sheena Deacon i’r gwrandawiad yn Llys Ynadon Hwlffordd a chafodd ddirwy o £200 am bob trosedd, sef pum achos o dorri Hysbysiadau Gwarchod y Gymuned, a gorchmynnwyd iddi dalu £1,000 tuag at gostau.

Os na chaiff y gwastraff ei glirio, gellir gwneud cais am Orchymyn Ymddygiad Troseddol o dan y Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona a gallai torri’r Gorchymyn arwain at ragor o gosbau gan y llys.

Dywedodd y Cynghorydd Jacob Williams, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio a Gwasanaethau Rheoleiddio: "Mae timau Diogelu’r Cyhoedd yn gweithio'n galed i sicrhau nad yw tenantiaid y Cyngor yn cael eu rhoi mewn risg o beryglon iechyd a achosir gan ymddygiad gwrthgymdeithasol o'r math hwn. Byddwn bob amser yn ceisio gweithio gyda thenantiaid i ddatrys y materion hyn ond byddwn yn defnyddio rhagor o bwerau i wella amgylcheddau preswyl pan fo angen."