English icon English
Nadolig Sir Benfro

Gwybodaeth am y Nadolig ar gael ar un dudalen we ddefnyddiol

Council Christmas info available on one handy webpage

Gyda thymor yr ŵyl yn agosáu mae gwybodaeth am wasanaethau allweddol y cyngor dros wyliau'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd bellach ar gael ar-lein.

Mae gwefan Cyngor Sir Penfro wedi diweddaru ei thudalen 'Nadolig yn Sir Benfro' gydag atebion i gwestiynau sy’n codi dros y gwyliau fel pryd bydd y biniau’n cael eu casglu a phryd mae parcio am ddim ar gael?

Gellir dod o hyd i wybodaeth hefyd am amseroedd agor canolfannau hamdden a llyfrgelloedd y sir, ynghyd ag awgrymiadau am sut i yrru yn y gaeaf, amserlenni bysiau, llwybrau halltu, a marchnadoedd Nadolig.

Mae gwybodaeth yno i’ch atgoffa o'r hyn y gellir – ac na ellir – ei ailgylchu, ynghyd a manylion ailgylchu coed Nadolig.

Ar gyfer eich holl wybodaeth dros y Nadolig ewch i https://www.sirbenfro.gov.uk/nadolig-yn-sir-benfro