English icon English
Residents enjoying the family fun event

‘Haf o Hwyl’ y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn dod â’r gymuned ynghyd – digwyddiadau cyffrous yn parhau i’r hydref

Family Information Service’s Summer of Fun brings the community together – exciting events continue into autumn

Yr haf hwn, cafodd menter “Haf o Hwyl” y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd effaith sylweddol ar y gymuned leol, gan gynnig ystod eang o weithgareddau a gwasanaethau am ddim wedi’u cynllunio i ddod â theuluoedd ynghyd a chreu atgofion parhaol.

Yr hyn a wnaeth y digwyddiadau hyn yn wirioneddol arbennig oedd bod aelodau'r cyhoedd wedi chwarae rhan allweddol wrth benderfynu ar leoliadau llawer o'r gweithgareddau, gan sicrhau bod y rhaglen yn cyrraedd yr ardaloedd sydd mwyaf mewn angen ac yn adlewyrchu dymuniadau teuluoedd lleol.

Mewn ymateb i adborth y cyhoedd yn gofyn am fwy o ddigwyddiadau, mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn llawn cyffro i gyhoeddi Llwybr Pwmpenni Calan Gaeaf a gynhelir dros hanner tymor mis Hydref, gan wahodd teuluoedd i gymryd rhan mewn helfa sborion arswydus ym Marina Neyland gyda phwmpenni wedi’u haddurno gan blant ysgol lleol.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y llwybr ar dudalen Facebook y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn yr dyddiau nesaf.

Cafodd teuluoedd y cyfle i ddewis lleoliadau yn agos i gartref, gan sicrhau bod y digwyddiadau yn gyfleus ac yn hygyrch i bawb. O ganlyniad, lledaenwyd gweithgareddau ar draws lleoliadau canolog megis ysgolion, canolfannau hamdden a neuaddau cymunedol, gan ddod â digwyddiadau yn nes at y cymunedau yr oeddent i fod i’w gwasanaethu.

FIS Cymraeg

Trwy adael i deuluoedd arwain y broses o wneud penderfyniadau, roedd y fenter nid yn unig yn hybu cyfranogiad ond hefyd yn meithrin ymdeimlad dyfnach o berchnogaeth ac ymwneud â’r gymuned.

Dywedodd Steven Richards-Downes, y Cyfarwyddwr Addysg: “Rydym wrth ein boddau gyda llwyddiant ein Diwrnodau Hwyl i’r Teulu am ddim a gynhaliwyd ledled y sir yr haf hwn. Mae’r cyfranogiad aruthrol a’r adborth cadarnhaol gan dros 700 o blant, pobl ifanc a theuluoedd yn amlygu pwysigrwydd digwyddiadau a hysgogir gan y gymuned.

“Rydym yn arbennig o falch ein bod wedi dosbarthu dros 800 o botiau byrbrydau iachus. Edrychwn ymlaen at drefnu mwy o’r digwyddiadau hyn yn y dyfodol, gan ddod â theuluoedd ynghyd a meithrin ymdeimlad o gymuned.”

Roedd yr Haf o Hwyl yn darparu bwyd am ddim a llu o weithgareddau i deuluoedd o bob maint ac oedran. O gelf a chrefft i chwaraeon a nofio, roedd rhywbeth at ddant pawb. Daeth canolfannau hamdden lleol, a ddewiswyd gan y gymuned, yn ganolbwyntiau bywiog ar gyfer y digwyddiadau, gan ddefnyddio cynigion presennol i ddarparu gweithgareddau amrywiol y gallai teuluoedd barhau i’w mwynhau ymhell ar ôl i hwyl yr haf ddod i ben.

Rhoddodd Milford Youth Matters yn Aberdaugleddau a Point Youth yn Abergwaun eu cefnogaeth i sicrhau bod teuluoedd yn yr ardaloedd hynny yn mwynhau ystod lawn o weithgareddau, tra oedd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu bwyd iachus trwy gydol y digwyddiadau. Gwnaeth y partneriaethau hyn, ynghyd â chydweithio â busnesau lleol, ehangu arlwy’r rhaglen ymhellach, gan roi amrywiaeth eang o opsiynau i deuluoedd ar gyfer hwyl ac ymgysylltu.

Family Service event 2

Dywedodd Eleanor Thomas, Swyddog y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi darparu ystod eang o weithgareddau am ddim i deuluoedd ledled Sir Benfro.

“Roedd y digwyddiadau hyn yn gyfle gwych i blant a rhieni ddod at ei gilydd, mwynhau amser gwerthfawr a chreu atgofion parhaol. Mae’n bleser gennym gefnogi ein cymuned gyda gweithgareddau hygyrch a difyr sy’n dod â llawenydd a chyfoethogi i gymaint o deuluoedd.

“Rydym yn gyffrous i barhau i gynnig mwy o ddigwyddiadau, fel ein Llwybr Pwmpenni Calan Gaeaf sydd ar ddod, ac edrychwn ymlaen at greu hyd yn oed mwy o brofiadau cofiadwy i bawb dan sylw."


Bydd Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Benfro hefyd yn rhannu ei ganllaw poblogaidd ar yr hyn sy’n digwydd ar ei dudalen Facebook i sicrhau bod gan deuluoedd ystod o weithgareddau i gymryd rhan ynddynt ar draws y sir dros hanner tymor. Anogir aelodau’r cyhoedd a darparwyr gweithgareddau i dagio’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd mewn postiadau cyfryngau cymdeithasol sy’n ymwneud ag unrhyw weithgareddau sy’n gyfeillgar i deuluoedd yr hoffent eu hyrwyddo drwy’r dudalen.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd ar ddod, gallwch ddilyn tudalen Facebook y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yma: facebook.com/PembsFlS/?locale=en_GB.

Gallwch hefyd edrych ar y canllaw ar yr hyn sy’n digwydd ar gyfer pob hanner tymor i ddarganfod hyd yn oed mwy o gyfleoedd llawn hwyl i'ch teulu.