Pen-blwydd hapus yn 109 oed, Ivy!
Happy 109th birthday Ivy!
Dathlodd menyw ryfeddol a anwyd dwy flynedd yn unig ar ôl i’r Titanic suddo, ei phen-blwydd yn 109 oed ar ddydd Mercher 1 Tachwedd.
Cafodd Mrs Ivy Skeate gerdyn oddi wrth Ei Fawrhydi Y Brenin i nodi’r achlysur.
Ganwyd Ivy ym 1914, yr un flwyddyn ag y dechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae hi wedi byw yng Nghartref Gofal Hillside yn Wdig ers 2013 a dathlodd ei phen-blwydd gyda the a chacen ac ymweliadau gan y teulu.
Ymwelodd Cadeirydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Tom Tudor, ag Ivy hefyd i ddymuno pen-blwydd hapus iddi ac fe ddaeth â blodau iddi’n anrheg.
Dywedodd y Cynghorydd Tudor: “Roedd yn hyfryd ymweld â Mrs Ivy Skeate i ddymuno pen-blwydd hapus iddi’n 109 oed. Mae hi’n berson annwyl, caredig a gofalgar, ac roedd yn ddiwrnod arbennig yn llawn eiliadau hyfryd a hapus.”
Dywedodd Annette Narbett, Rheolwr Cartref Cofrestredig yn Hillside sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Sir Penfro, fod yr holl staff yn hoff iawn o Ivy, sy’n dal i fwynhau gêm o fingo ar ôl cinio ar ddydd Mercher a dydd Sul.
Ganwyd Ivy yn Southwark, de Llundain, a phan oedd hi’n faban roedd ei thad-cu a oedd yn heddwas yn patrolio strydoedd de Llundain yn rhoi gwybod i breswylwyr fod popeth yn ddiogel yn dilyn cyrchoedd awyrlongau trwy chwythu ei chwiban yn fain.
Ar ôl priodi James Skeate ym 1938, symudodd i Surrey ar ôl i’r Ail Ryfel Byd ddechrau, a chafodd ddwy ferch yn ddiweddarach.
Ymgartrefodd hi a’i gŵr yn Nhrefdraeth ym 1966 a chynnal West End Stores yno am flynyddoedd lawer.
Nodiadau i olygyddion
Capsiynau:
Dathlodd Ivy Skeate ei phen-blwydd yn 109 oed ar ddydd Mercher, 1 Tachwedd. Dyma lun ohoni gyda’i theulu a staff Cartref Gofal Hillside.
Ymwelodd Cadeirydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Tom Tudor, hefyd i ddymuno pen-blwydd hapus i Ivy.