Cyfle i roi eich barn ar sut mae'r Cyngor yn gwella llesiant yn Sir Benfro
Have a say on how Council improves well-being in Pembrokeshire
Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Penfro yn paratoi ei amcanion llesiant newydd sy'n manylu sut fydd yr Awdurdod yn gwneud gwahaniaeth o ran gwella llesiant pobl a chymunedau lleol.
Mae'r amcanion llesiant yn rhan o'r Strategaeth Gorfforaethol ddrafft ac mae ymgynghoriad wedi'i lansio i aelodau'r cyhoedd roi adborth.
Cytunwyd ar Strategaeth Gorfforaethol bresennol y Cyngor ym mis Mai 2023 ac mae'n rhoi manylion y 12 amcan llesiant.
Mae'r Cyngor bellach yn cynnig lleihau nifer yr amcanion llesiant i bedwar er mwyn canolbwyntio’n fanylach ar heriau a chyfleoedd allweddol.
Yr amcanion llesiant drafft yw:
- Ein Dyfodol - galluogi'r dechrau gorau mewn bywyd i'n plant a'n pobl ifanc, gan roi sgiliau iddynt ar gyfer y dyfodol
- Ein Lle - lleoedd llewyrchus, gydag amgylcheddau glân, diogel a chynaliadwy, lle gall pobl fyw'n dda a ffynnu
- Ein Cymunedau - gofalu am bobl, a galluogi cymunedau gweithredol, dyfeisgar a chysylltiedig
- Ein Cyngor - Cyngor sy'n cael ei reoli'n dda yn ariannol, gyda gweithlu yn barod i gefnogi'r bobl rydym yn eu gwasanaethu
Yn dilyn yr ymgynghoriad, yr amcanion llesiant y cytunwyd arnynt fydd asgwrn cefn y Strategaeth Gorfforaethol newydd 2025 – 2030.
Gallwch weld yr amcanion ar-lein yn Strategaeth Gorfforaethol Ddrafft 2025-30 a'r hyn y bydd y Cyngor yn ei wneud i’w cyflawni.
Gallwch roi eich barn drwy lenwi'r ffurflen ymateb ar-lein.
Am gopi papur ffoniwch 01437 764551 neu e-bostiwch enquiries@pembrokeshire.gov.uk
Y dyddiad cau yw 2 Chwefror 2025.