Lleisiwch eich barn ar y newidiadau arfaethedig i ardaloedd rheoli ansawdd aer
Have a say on proposed changes to air quality management areas
Mae Cyngor Sir Penfro yn gwahodd trigolion i gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch y cynnig arfaethedig i gael gwared ar ardaloedd rheoli ansawdd aer yn Hwlffordd a Phenfro.
Mae gan y cyngor ymrwymiad hirdymor i fonitro ansawdd aer er mwyn helpu i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
Yn 2012, dynodwyd sawl stryd yn Hwlffordd a Phenfro yn ardaloedd rheoli ansawdd aer ar ôl i asesiadau ddangos y gallai lefelau llygredd aer, a achosir yn bennaf gan draffig, fod y tu hwnt i amcanion ansawdd aer cenedlaethol.
Ers hynny, cofnodwyd gwelliannau parhaus.
Mae gwaith monitro parhaus wedi dangos bod lefelau nitrogen deuocsid (NO₂) yn y ddau leoliad wedi aros yn gyson isel ac yn gyfforddus o fewn y safonau cenedlaethol.
Mae ffactorau sy’n cyfrannu yn cynnwys llai o allyriadau o gerbydau a thraffig sy’n llifo’n well.
O ganlyniad, mae’r cyngor yn cynnig dirymu’r dynodiadau ardaloedd rheoli ansawdd aer. Fodd bynnag, bydd gwaith monitro ansawdd aer yn parhau.
Sut i gymryd rhan
Gwahoddir trigolion i gwblhau arolwg ar-lein erbyn 20 Mawrth 2026.
Gallwch ddod o hyd i’r arolwg yma: https://www.sir-benfro.gov.uk/dweud-eich-dweud/ddirymu-ardaloedd-rheoli-ansawdd-aer-aqmas
Os hoffech gael copi papur o’r arolwg, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 01437 764551 neu anfonwch neges e-bost at AQMA.consultation@pembrokeshire.gov.uk