
Cyfle i ddweud eich dweud ar Hunanasesiad blynyddol y Cyngor
Have your say on Council’s annual Self-Assessment
Bob blwyddyn mae Cyngor Sir Penfro yn cyhoeddi hunanasesiad o berfformiad y Cyngor.
Mae'r asesiad yn ystyried a yw'r Cyngor yn:
- arfer ei swyddogaethau yn effeithiol
- defnyddio adnoddau yn ddarbodus, effeithlon ac effeithiol
- rhoi llywodraethu effeithiol ar waith i sicrhau'r uchod
Mae'r hunanasesiad yn ymwneud â sut mae'r sefydliad yn gweithredu yn ei gyfanrwydd ac nid yw'n asesiad o berfformiad gwasanaeth unigol.
Mae ystyried barn y cyhoedd yn rhan hanfodol o'r broses adolygu.
Gallwch roi eich barn ar yr Hunanasesiad Blynyddol 2024-25 drwy lenwi'r ffurflen ymateb ar-lein yn: https://www.sir-benfro.gov.uk/dweud-eich-dweud/hunanasesiad-blynyddol-2024-25
Os hoffech gael copi papur o'r ffurflen ymateb, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Cwsmeriaid ar 01437 764551.
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw dydd Gwener, 5 Medi, 2025.