English icon English
Council Tax premium consultation - Ymgynghoriad premiwm Treth y Cyngor

Dweud eich dweud ar bremiymau’r Dreth Gyngor yn Sir Benfro

Have your say on Council Tax premiums in Pembrokeshire

Gofynnir i aelodau'r cyhoedd roi adborth ar bremiymau’r Dreth Gyngor yn Sir Benfro.

Mae Cyngor Sir Penfro yn cynnal ymgynghoriad ar y premiymau sy'n berthnasol i ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor.

Mae'r ymgynghoriad yn gofyn am farn ar:

  • Premiymau’r Dreth Gyngor presennol ar gyfer ail gartrefi
  • Premiymau’r Dreth Gyngor presennol ar gyfer cartrefi gwag tymor hir
  • A ddylai'r Cyngor ddefnyddio ei ddisgresiwn yn dilyn diwygiad Llywodraeth Cymru i drothwyon llety gwyliau hunanarlwyo, i fod mewn trethi annomestig.

Mae'r ymgynghoriad yn darparu cyd-destun a gwybodaeth gefndirol am bremiymau’r Dreth Gyngor a thai yn lleol ar hyn o bryd.

Mae hefyd yn darparu diffiniadau o ail gartrefi, cartrefi gwag tymor hir, eithriadau a llety gwyliau.

Dywedodd y Cynghorydd Josh Beynon, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gyllid Corfforaethol ac Effeithlonrwydd: "Mae'n bwysig iawn bod cymaint o bobl â phosibl yn rhoi eu barn i ni ar yr ymgynghoriad hwn

"Rydyn ni'n gwybod bod premiymau’r Dreth Gyngor yn fater sy'n ennyn barn gref felly rydyn ni eisiau clywed y safbwyntiau hynny. Bydd yr ymatebion yn rhan hanfodol o'n hadolygiad i bremiymau’r Dreth Gyngor."

 Sut i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad:

Gellir cwblhau'r ymgynghoriad yn: https://www.sir-benfro.gov.uk/dweud-eich-dweud/ymgynghoriad-ar-bremiwm-y-dreth-gyngor-2024

Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd ac os hoffech ymateb ffoniwch 01437 764551 a gellir anfon ffurflen ymateb copi caled atoch.

 Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion wedi'u cwblhau yw 27 Awst 2024.