Bus driver - Gyrrwr bws

Mynnwch ddweud eich dweud am ddyfodol gwasanaethau bws yn Sir Benfro

Have your say on future of bus services in Pembrokeshire

Rhannu:

Mae ymgynghoriad wedi cael ei lansio i’r ffordd y bydd gwasanaethau bws Sir Benfro’n cael eu gweithredu o 2024 ymlaen.

Mae dros 25 o wasanaethau bws lleol yn gweithredu yn y sir, y mae bron y cyfan ohonynt yn cael cymhorthdal gan y Cyngor.

Gostyngodd niferoedd y teithwyr yn sylweddol yn ystod cyfnod Covid ac, ar y rhan fwyaf o wasanaethau, maent islaw lefelau blaenorol o hyd.

Mae pob gwasanaeth bws yn mynd trwy broses aildendro ac mae costau cynyddol yn golygu efallai na fydd hi’n bosibl i’r Cyngor barhau i ariannu’r holl wasanaethau bws yn yr un ffordd yn y dyfodol.

Gofynnir i’r cyhoedd gymryd rhan yn yr ymgynghoriad i roi barn am y ffordd y mae’r Cyngor yn bwriadu gwneud penderfyniadau am ba lwybrau ac opsiynau i’w hariannu.

Y nod yw cyflwyno’r rhwydwaith gorau o fysus yn Sir Benfro o fewn cyfyngiadau’r gyllideb sydd ar gael.

I ymateb i’r ymgynghoriad hwn:

 Arolwg ar-lein:  Mae’r arolwg ar gael ar-lein.


Drwy’r e-bost: E-bostiwch yr arolwg wedi’i lenwi i public.transport@pembrokeshire.gov.uk

 Drwy’r Post: Dychwelwch gopïau papur o’r arolwg i’r Uned Drafnidiaeth, Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd SA61 1TP.

Gallwch ofyn am gopi o’r arolwg drwy’r e-bost public.transport@pembrokeshire.gov.uk neu drwy ffonio 01437 764551. 

Sylwch mai 7 Ionawr 2024 yw’r dyddiad cau ar gyfer anfon ymatebion.