Dweud eich dweud am lesiant yn Sir Benfro
Have your say on well-being in Pembrokeshire
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro yn lansio ei drydydd Asesiad Llesiant ac mae'n gofyn i drigolion ddweud eu dweud.
Y diben yw nodi'r hyn sy'n bwysig i bobl a chymunedau yn Sir Benfro o ran llesiant.
Mae'r asesiad yn ofyniad statudol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Bydd canfyddiadau'r Asesiad Llesiant yn cael eu defnyddio gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i nodi a chynllunio'r camau y bydd yn eu cymryd i wella llesiant yn Sir Benfro nawr ac yn y dyfodol.
Mae'r asesiad am glywed barn pobl sy'n byw neu'n gweithio yn Sir Benfro a bydd yn weithredol rhwng 1 Mehefin ac 8 Awst 2026. Bydd hwn yn arolwg ar y cyd â Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.
Gweler: https://online1.snapsurveys.com/Well-being_Assessment_2026