Tŷ Haverfordia: Gwaith yn dechrau i greu fflatiau tai gwarchod
Haverfordia House: Work starts on sheltered housing apartments and reablement centre
Mae'n bleser gan Gyngor Sir Penfro gyhoeddi bod y gwaith adeiladu wedi dechrau ar ddatblygiad tai fforddiadwy ac ail-alluogi newydd Tŷ Haverfordia ar hen safle Haverfordia House yn Hwlffordd.
Bydd y cynllun, a ddarperir gan Wynne Construction, yn darparu 26 o fflatiau tai gwarchod i bobl 55 oed a hŷn, ynghyd â chanolfan ailalluogi â 12 gwely bwrpasol i gefnogi preswylwyr sy'n dychwelyd adref o'r ysbyty.
Mae'r datblygiad yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i gynyddu’r cyflenwad o dai hygyrch o ansawdd uchel a darparu cymorth iechyd a gofal cymdeithasol cyfoes effeithiol ledled Sir Benfro.
Dechreuodd y gwaith cychwynnol ar 26 Ionawr 2026 ac mae'n cynnwys diogelu'r safle, creu lle caeedig bach ac ardal barcio i gontractwyr, gosod mynediad dan reolaeth ar gyfer personél y safle, a lleoli unedau swyddfa a lles dros dro.
Er mwyn cynnal mynediad diogel i gyfleusterau cyfagos, gan gynnwys y feddygfa a Chanolfan Hamdden Hwlffordd, bydd llwybrau cerddwyr drwy'r ardal yn aros ar agor.
Yn ogystal â hyn, mae ychydig o leoedd parcio cyhoeddus, gan gynnwys cilfannau i'r anabl, wedi'u cadw a’r peiriannau Talu ac Arddangos wedi'u hadleoli i leihau anghyfleustra.
Er mwyn cadw'r lleiafswm o leoedd parcio yn ogystal â’r angen i ddarparu ar gyfer cyfleusterau lles hanfodol i gontractwyr, bu'n rhaid defnyddio rhan fach o Faes Rifleman yn ystod cyfnod datblygu'r safle.
Bydd y lle hwn yn cael ei ffensio'n ddiogel, a bydd yr ôl troed yn fach. Bydd unrhyw rannau o Faes Rifleman yr effeithir arnynt gan y gwaith yn cael eu hadfer yn llawn ar ôl eu cwblhau a'u dychwelyd i’r un cyflwr neu well nag ydyw ar hyn o bryd.
Er mwyn sicrhau bod trigolion a rhanddeiliaid yn cael eu hysbysu ac yn cael y cyfle i ymgysylltu â'r datblygiad, bydd Gwasanaethau Tai Sir Benfro yn cynnal Digwyddiad Galw Heibio Ymgysylltu â'r Gymuned ddydd Iau, 19 Chwefror 2026 rhwng 5pm a 7pm.
Lleoliad y digwyddiad fydd Yr Ystafell Werdd, Canolfan Hamdden Hwlffordd, St Thomas Green, Hwlffordd SA61 1QX
Bydd aelodau o'r tîm Gwasanaethau Tai a chynrychiolwyr y prosiect ar gael i rannu rhagor o wybodaeth, ateb cwestiynau, a gwrando ar adborth gan y gymuned leol.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro dros Dai, y Cynghorydd Michelle Bateman: "Rwy'n falch ein bod wedi cyrraedd y cam o ddechrau ar y safle o'r diwedd ac edrychaf ymlaen at weld y datblygiad yn symud yn ei flaen.
“Rydym wedi gallu symud ymlaen gyda'r datblygiad ar ôl derbyn cymorth grant mawr ei angen gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y rhannau ail-alluogi a thai o'r datblygiad.”
I gael rhagor o wybodaeth am y datblygiad neu'r digwyddiad ymgysylltu sydd i ddod, cysylltwch â'r Tîm Cyswllt Cwsmeriaid yn devCLO@pembrokeshire.gov.uk