Berw ym Maes Awyr Hwlffordd ar Ddiwrnod Awyrendy Agored
Haverfordwest Airport buzzing on Open Hanger Day
Cynhaliodd Metal Seagulls Ddiwrnod Awyrendy Agored prysur a difyr ym Maes Awyr Hwlffordd yn ddiweddar.
Mae Metal Seagulls yn darparu cymorth i’r sector hedfanaeth ysgafn â phŵer mwyaf yn y DU, a elwir yn ‘non-part-21’ sy’n cwmpasu mwyafrif yr awyrennau adain sefydlog dwy sedd â phŵer.
Fe wnaeth tywydd gwael leihau nifer yr ymwelwyr a hedfanodd yno, er bod rhyw ddwsin o hyd wedi hedfan o bob cwr o’r wlad i’r maes awyr, sydd dan berchnogaeth a gweithrediad Cyngor Sir Penfro, a theithiodd dros 100 o bobl o gwmpas y cyfleusterau.
Cyfarfu ymwelwyr â Patricia Mawuli Porter OBE, sy’n rhedeg gweithrediadau Metal Seagulls, a’i thîm, sy’n cynnwys nifer o bobl ifanc mewn cydweithrediad â phartneriaid academaidd lleol.
Cawsant gyfle i weld sut caiff awyrennau ysgafn eu hadeiladu, eu cynnal a chadw a’u trwsio, a gwelont amrywiaeth ULPower o injans awyrennau a llafnau gwthio DUC, ynghyd â chitiau awyrennau Zenair, sy’n cael eu cyflenwi gan Metal Seagulls.
Roedd cip ar gael i sedd peilot awyren Fafali pwerdy a ffynhonnell egni agnostig, y mae gobaith cynnal hediadau prawf ohono o Hwlffordd y flwyddyn nesaf.
Mae Metal Seagulls yn gweithio ar y cyd â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i ddarparu cyfleoedd i raddedigion weithio ar y genhedlaeth nesaf o ddyluniadau peirianneg ac awyren, ynghyd â chynnig opsiynau prentisiaeth i fyfyrwyr Coleg Sir Benfro.
Meddai Mrs Porter: “Rydym yn gobeithio datblygu ein darpariaethau yn Sir Benfro i gyfleuster cynhyrchu llawn gyda lle i 50 o awyrennau y flwyddyn, wrth i dwf yn y sector hedfanaeth cenhedlaeth nesaf o gwmpas y byd gynnig cyfleoedd newydd ar gyfer isadeileddau hedfanaeth.
“Roeddem yn falch o groesawu cynifer o bobl i’r maes awyr – un o’r meysydd awyr mwyaf cyfeillgar a chroesawgar yn y wlad, ym marn rhai – i ddysgu mwy am ein gwaith yma.”
Ychwanegodd Phil Davies, Rheolwr y Maes Awyr: “Roedd hi’n bleser i Faes Awyr Hwlffordd groesawu cwsmeriaid newydd a ymwelodd â digwyddiad awyrendy agored Metal Seagulls dros y deuddydd. Mae Cyngor Sir Penfro yn falch o fod yn gweithio’n agos gyda Metal Seagulls i helpu hyrwyddo hedfanaeth.
“Mae’n galonogol iawn gweld Metal Seagulls yn cynnig prentisiaethau mewn hedfanaeth ysgafn yn Sir Benfro; mae’n argoeli’n gyffrous, gyda’r posibilrwydd o gynhyrchu ehangach yn y Sir.”
O’r chwith i’r dde: Safi Altaf (Intern/UWTSD), Carys Williams (Cydymaith Ymchwil/UWTSD), Patricia Mawuli Porter OBE (Cyfarwyddwr Metal Seagulls), Gwenevere Porter (Merch Patricia a chyw beiriannydd/Metal Seagulls), Layney Lindsay (Prentis/Coleg Sir Benfro) a Charlotte Ashton-Smith (Darpar Brentis/Coleg Sir Benfro).