Helpwch ni i lunio ein gwasanaethau digidol
Help shape our digital services
Ymunwch â'n panel ymchwil a helpwch ni i wella ein gwefannau a'n gwasanaethau digidol. Dewiswch pa gyfleoedd ymchwil rydych chi am gymryd rhan ynddynt, o arolygon cyflym i brofi syniadau newydd.
Rydym yn chwilio am bobl ledled Sir Benfro, gan gynnwys trigolion a pherchnogion busnesau, i ymuno â'n panel ymchwil a'n helpu i wella ein gwefannau a'n gwasanaethau digidol.
Does dim angen i chi fod yn arbenigwr digidol. Rydym am glywed gan bobl sydd â gwahanol brofiadau a lefelau o hyder wrth ddefnyddio gwasanaethau digidol.
Drwy ymuno â'r panel, gallech gael eich gwahodd i wneud y canlynol:
- rhoi atebion mewn pôl cyflym neu arolwg byr
- rhoi cynnig ar syniad neu brototeip newydd
- cymryd rhan mewn trafodaeth ar-lein neu wyneb yn wyneb
- dangos i ni beth sy'n gweithio'n dda a beth allai fod yn haws wrth ddefnyddio ein gwefannau a'n gwasanaethau digidol
Mae rhai cyfleoedd yn cymryd dim ond ychydig funudau. Mae eraill yn rhoi’r cyfle i chi gymryd mwy o ran a rhoi cynnig ar bethau cyn iddyn nhw gael eu lansio.
Chi sy'n dewis pa gyfleoedd rydych chi am gymryd rhan ynddynt, a does dim rhwymedigaeth i gymryd rhan pan fyddwn ni'n cysylltu â chi.
Mae adborth gan ein panel ymchwil yn ein helpu i wella ein gwefan a Fy Nghyfrif. Mae hyn yn cynnwys sut mae gwybodaeth yn cael ei grwpio a'i labelu fel ei bod hi'n hawdd dod o hyd iddi, a sut mae gwahanol nodweddion yn gweithio.
Ymunwch â'r panel ymchwil
Os hoffech chi helpu i lunio ein gwasanaethau digidol, cwblhewch ein ffurflen gofrestru fer.
Byddwn yn cadw eich manylion ar y panel ymchwil am ddwy flynedd, oni bai eich bod chi’n gofyn i ni eu tynnu yn gynt. Tua diwedd y ddwy flynedd, byddwn yn gofyn a hoffech chi gofrestru eto.