Cynnal seremoni cyflwyno medalau anrhydedd yn Neuadd y Sir
Honours medal presentation ceremony held at County Hall
Canmolodd Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Dyfed, sef Miss Sara Edwards, gyflawniadau rhagorol pedwar o breswylwyr Sir Benfro wrth iddi roi arwyddlun iddynt mewn seremoni cyflwyno medalau fawreddog yn Hwlffordd yr wythnos ddiwethaf.
Cynhaliwyd y digwyddiad yn Siambr y Cyngor yn Neuadd y Sir ac fe’i cyflwynwyd gan Gadeirydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Pat Davies. Cynorthwywyd yr Arglwydd Raglaw gan y Cadét Ben Power.
Yn ystod y seremoni, cyflwynwyd gwobr Swyddog Anrhydeddus Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE), dwy Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) a Gwobr Jiwbilî Blatinwm RVS Y Frenhines.
Cyflwynwyd Swyddog er Anrhydedd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig am wasanaethau i hedfan i Mrs Patricia Mawuli Porter OBE, un o sylfaenwyr Metal Seagulls ac awyrennau Fafali yn Hwlffordd. Dyfernir yr OBE am rôl Nodedig Ranbarthol neu ledled y Sir mewn unrhyw faes, trwy gyflawniad neu wasanaeth i'r gymuned gan gynnwys ymarferwyr nodedig sy’n adnabyddus yn genedlaethol. Y peilot sifil benywaidd ardystiedig cyntaf yn Ghana, a’r unig arolygydd awyrennau benywaidd du ar gyfer yr LAA a BMAA yn y DU, mae Patricia yn ysbrydoliaeth, mentor a model rôl o fewn y gymuned hedfan ac ehangach.
Dyfernir y Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig am wasanaeth sifil neu filwrol clodwiw sy’n deilwng o gydnabyddiaeth gan y Goron. Mae’n gwobrwyo cyfraniad lleol parhaus neu waith arloesol sy’n cael effaith fawr.
Cyflwynwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i’r cyn-newyddiadurwr chwaraeon a’r codwr arian Mr William Carne BEM, o Drefgarn, am wasanaethau i chwaraeon ac elusennau.
Cyflwynwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i Mrs Yvonne Evans BEM, clerc plwyf Cyngor Cymuned Marloes a Sain Ffrêd ers 43 blynedd, am wasanaethau gwirfoddol i’r gymuned yn Sir Benfro.
Dyfernir y BEM am wasanaeth sifil neu filwrol clodwiw sy’n deilwng o gydnabyddiaeth gan y Goron. Mae’n gwobrwyo cyfraniad lleol parhaus neu waith arloesol sy’n cael effaith fawr.
Cyflwynwyd Gwobr Jiwbilî Blatinwm RVS Y Frenhines i’r aelod o Sefydliad y Merched, Mrs Leah Pitman o Abergwaun, am ei gwaith gydag aelodau Ffederasiwn Sefydliad y Merched Sir Benfro i greu a chydlynu’r broses o ddosbarthu llawer o eitemau a wnaed â llaw i bobl mewn angen. Mae’r wobr yn dathlu haelioni ac ymroddiad gwirfoddolwyr sy’n gwneud pethau rhyfeddol bob dydd.
Dywedodd Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Dyfed, Miss Sara Edwards: “Mae’n bleser mawr cyfarfod â’r holl breswylwyr ysbrydoledig yma o Sir Benfro a’u llongyfarch yn wresog ar ran Ei Fawrhydi Y Brenin.
“Maen nhw’n wir ysbrydoliaeth i ni i gyd yn y gymuned.”
Mynychwyd y seremoni hefyd gan westeion gwahoddedig y rhai a dderbyniodd fedalau, ac Arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd David Simpson.
Mae’r llun uwchlaw yn dangos y rhai a oedd yn bresennol yn y seremoni gyflwyno, sef (yn y canol) y Cynghorydd Pat Davies, sef Cadeirydd Cyngor Sir Penfro, gydag Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Dyfed, sef Miss Sara Edwards, Cadét Arglwydd Raglaw Dyfed, sef Ben Power, ac Arweinydd y Cyngor, sef y Cynghorydd David Simpson.
Pennawd (Mrs Patricia Mawuli Porter OBE)
Mae’r llun yn dangos Mrs Patricia Mawuli Porter OBE, y cyflwynwyd gwobr Swyddog Anrhydeddus Urdd yr Ymerodraeth Frydeinig (OBE) iddi am wasanaethau i hedfanaeth. Gwelir Mrs Mawuli Porter OBE gydag Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Dyfed, sef Miss Sara Edwards, Cadét Arglwydd Raglaw Dyfed, sef Ben Power, Cadeirydd Cyngor Sir Penfro, sef y Cynghorydd Pat Davies, ac Arweinydd y Cyngor, sef y Cynghorydd David Simpson.
Pennawd (Mr William Carne BEM)
Mae’r llun yn dangos Mr William Carne BEM, y cyflwynwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig iddo am wasanaethau i chwaraeon ac elusennau. Gwelir Mr Carne BEM gydag Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Dyfed, sef Miss Sara Edwards, Cadét Arglwydd Raglaw Dyfed, sef Ben Power, Cadeirydd Cyngor Sir Penfro, sef y Cynghorydd Pat Davies, ac Arweinydd y Cyngor, sef y Cynghorydd David Simpson.
Pennawd (Mrs Yvonne Evans BEM)
Mae’r llun yn dangos Mrs Yvonne Evans BEM, y cyflwynwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig iddi am wasanaethau gwirfoddol i’r gymuned yn Sir Benfro. Gwelir Mrs Evans BEM gydag Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Dyfed, sef Miss Sara Edwards, Cadét Arglwydd Raglaw Dyfed, sef Ben Power, Cadeirydd Cyngor Sir Penfro, sef y Cynghorydd Pat Davies, ac Arweinydd y Cyngor, sef y Cynghorydd David Simpson.
Pennawd (Mrs Leah Pitman)
Mae’r llun yn dangos Mrs Leah Pitman o Abergwaun, y cyflwynwyd Gwobr Jiwbilî Blatinwm RVS Y Frenhines iddi. Gwelir Mrs Pitman gydag Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Dyfed, sef Miss Sara Edwards, Cadét Arglwydd Raglaw Dyfed, sef Ben Power, Cadeirydd Cyngor Sir Penfro, sef y Cynghorydd Pat Davies, ac Arweinydd y Cyngor, sef y Cynghorydd David Simpson.