English icon English
e-bike - e-feic 1 cropped

Ar eich beic ar gyfer treial cyffrous E-feiciau Sir Benfro

Hop on for exciting Pembrokeshire E-bike trial

Mae trigolion ac ymwelwyr pedair ardal yn Sir Benfro, yn cael eu gwahodd i fynd ar eu beiciau yn sgil cyflwyno treial E-feiciau talu wrth alw cyffrous.

Diolch i gyllid gwerth £150,000 gan raglen Metro Bae Abertawe a De-orllewin Cymru, bydd y treial yn cael ei gynnal am 12 mis yn Hwlffordd, Abergwaun ac Wdig a Dinbych-y-Pysgod.

Pan fydd y treial yn dechrau ddydd Llun 15 Ebrill, bydd fflyd o E-feiciau yn cael eu darparu i aelodau’r cyhoedd eu defnyddio ar gyfer cymudo, hamdden a gweithgareddau lleol.

Bydd defnyddwyr yn gallu casglu a gadael E-feiciau mewn cyfres o fannau casglu a gollwng hwylus o amgylch y trefi.

Mae e-feiciau yn gyfuniad o feic confensiynol gyda modur sy’n lleihau’r ymdrech o bedlo i’r beiciwr. Maen nhw’n gallu mynd yn bellach yn gyflymach gan ofyn llai o ymdrech na beiciau confensiynol.

Y nod yw rhoi dull teithio arall i drigolion ac ymwelwyr yn hytrach na dibynnu ar geir ar gyfer teithiau byr o dan 2km.

Bydd hyn yn ei dro yn creu Sir Benfro iachach wedi’i datgarboneiddio ac yn helpu tuag at Dargedau Datgarboneiddio Cenedlaethol.

Bydd Zipp Mobility yn cynnal y beiciau drwy gydol y cyfnod prawf, gan gynnwys sicrhau bod batris yn cael eu gwefru ac yn barod i fynd.

e-bike - e-feic 5

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr: "Mae’r cais llwyddiannus am Gyllid Metro De-orllewin Cymru wedi caniatáu buddsoddi yn y drafnidiaeth gyffrous ac ecogyfeillgar hon.

"Bydd y trefi’n rhan o gynllun peilot i annog trigolion, cymudwyr ac ymwelwyr i ddefnyddio’r beiciau trydan drwy gynllun cost isel.

"Rydyn ni’n gobeithio, os bydd angen i bobl wneud taith fer, y byddan nhw’n ystyried mynd ar un o’r E-feiciau hyn mewn man cyfleus yn hytrach na throi at gar yn syth.

"Os yw’n llwyddiannus, y gobaith yw y bydd modd ymestyn y cynllun i rannau eraill o’r sir".

Bydd angen i ddefnyddwyr fod dros 18 oed a byddan nhw’n defnyddio’r E-feiciau trwy ap Zipp Mobility ar eu ffonau symudol. Lawrlwythwch yr ap a chofrestrwch i fod yn barod i feicio. Mae’r ap hefyd yn rhoi manylion y prisiau.

Mae’n rhaid casglu’r E-feiciau a’u dychwelyd i gyfres o leoliadau ar draws pob tref.

Mae mwy o wybodaeth am y cynllun ar gael ar wefan Cyngor Sir Penfro.

Cynhelir digwyddiad lansio ddydd Llun 15 Ebrill yn Neuadd y Sir, Hwlffordd rhwng 9am ac 11am a 1pm-3pm. Mae croeso i aelodau'r cyhoedd fynychu, gweld E-feic a dysgu mwy am y treial.

Nodiadau i olygyddion

Egluryn:

Yn barod i farchogaeth: Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr, y Cynghorydd Rhys Sinnett yn y llun gyda'r E-feiciau a fydd i'w gweld yn Sir Benfro yn fuan. Yn ymuno â'r Cynghorydd Sinnett mae Will Davies, Cynllunydd Cludiant y Cyngor.