
Hwyl Anhygoel yn Niwrnod Chwarae 25 Cyngor Sir Penfro!
Record-breaking fun at Pembrokeshire County Council Play Day 25
Roedd Maenordy Scolton yn llawn cyffro ar Ddiwrnod Chwarae 25 wrth i’r nifer mwyaf erioed, 2,266 o blant ac oedolion, ddod at ei gilydd i ddathlu chwarae, cymuned a chreadigrwydd.
Wedi'i drefnu gan Gyngor Sir Penfro, y Diwrnod Chwarae eleni oedd y mwyaf eto, gan ddod â theuluoedd o bob cwr o'r sir i fwynhau cymysgedd bywiog o weithgareddau, adloniant a hwyl yn yr awyr agored.
Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd ar dir hardd Maenordy Scolton, yn nodi dathliad hapus o bwysigrwydd chwarae ym mywydau plant a phŵer cysylltiad cymunedol.
O baentio wynebau a chwarae blêr i gorneli synhwyraidd a llwybrau natur, roedd pob cornel o'r faenor yn llawn bywyd gyda chwerthin a dychymyg.
Roedd ffrwythau am ddim ar gael trwy gydol y dydd, gan hyrwyddo arferion iach a thorri syched. Daeth sefydliadau lleol a gwirfoddolwyr at ei gilydd i gynnig gweithgareddau cynhwysol am ddim a oedd yn darparu ar gyfer pob oedran a gallu, gan sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i archwilio, creu a chysylltu.
Dywedodd y Cynghorydd Jon Harvey, Arweinydd Cyngor Sir Penfro a Hyrwyddwr Chwarae: "Rydym wrth ein bodd gyda'r nifer a ddaeth draw. Mae gweld dros ddwy fil o bobl yn dod at ei gilydd i ddathlu chwarae yn dyst i gryfder ein cymuned a'r gwerth rydyn ni'n ei roi i brofiadau plentyndod.
“Mae’r Diwrnod Chwarae yn ymwneud â mwy na dim ond hwyl, mae'n ymwneud â meithrin perthnasoedd, cefnogi lles, a chreu atgofion parhaol.”
Tynnodd y digwyddiad sylw hefyd at ymrwymiad y cyngor i hyrwyddo chwarae fel rhan hanfodol o ddatblygiad plant, gan gyd-fynd â themâu Diwrnod Chwarae cenedlaethol sy'n annog rhoi amser, lle a chaniatâd i chwarae.
Gyda thywydd perffaith, y nifer mwyaf erioed yn bresennol, a gwên ar wyneb pawb, roedd Diwrnod Chwarae 25 yn llwyddiant ysgubol - ac yn ein hatgoffa o ba mor bwerus y gall chwarae fod wrth ddod â phobl at ei gilydd.
Wnaethoch chi fynd i Diwrnod Chwarae 25? Rhannwch eich hoff bethau a lluniau gan ddefnyddio #DiwrnodChwaraePenfro25!