English icon English
Primary school boccia event with Sport Pembrokeshire

Hwyl chwaraeon i ddisgyblion ADY mewn digwyddiadau Boccia cynradd

Sporting fun for ALN pupils at primary Boccia events

Daeth twrnameintiau Boccia y De a’r Gogledd â phlant cynradd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol at ei gilydd ar gyfer cystadleuaeth hwyliog y mis hwn.

Cymerodd dros 70 o ddisgyblion o Ganolfannau Adnoddau Dysgu cynradd Sir Benfro ran yn y ddau dwrnamaint, a drefnwyd gan Chwaraeon Sir Benfro ac a noddwyd gan Valero.

Mae Boccia yn gamp Baralympaidd lle mae cystadleuwyr yn gwthio pêl ar gwrt gyda'r nod o fynd agosaf at y bêl 'jack'.

Yn cymryd rhan yn nhwrnamaint y de yng Nghanolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod roedd plant o Ysgol Gynradd Dinbych-y-pysgod, Ysgol Gymunedol Neyland, Ysgol Gynradd Priordy Monkton, Ysgol Gymunedol Doc Penfro ac Ysgol Gynradd Gelliswick – ac enillwyd y rownd derfynol gan Ysgol Gynradd Dinbych-y-pysgod yn erbyn Ysgol Gynradd Priordy Monkton.

Yn y gogledd, cynhaliwyd y twrnamaint yng Nghanolfan Hamdden Abergwaun gyda disgyblion Ysgol Glannau Gwaun, Ysgol Gynradd Johnston, Ysgol Waldo Williams ac Ysgol Gynradd Gymunedol Fenton yn cymryd rhan – enillwyd y rownd derfynol gan Glannau Gwaun yn erbyn Johnston.

Dywedodd Jon Rowles, o Chwaraeon Sir Benfro: "Fe wnaeth yr holl ddisgyblion fwynhau'r gystadleuaeth yn fawr ac fe ddangoson nhw sgiliau gwych a chwarae teg.

“Diolch i Lysgenhadon Ifanc Chwaraeon Sir Benfro o Ysgol Greenhill ac Ysgol Bro Gwaun am ddyfarnu mor wych, ac i Valero am ei gefnogaeth barhaus.

“Roedd yn ddigwyddiad gwych i bawb a gymerodd ran."

Cafwyd cymorth ar y diwrnod gan Sian Jones, Chwaraewr Boccia Rhyngwladol Cymru a'i theulu, ynghyd â gwirfoddolwyr ymroddedig o grŵp Chwaraeon Anabledd Tenderfoot o Rotari Saundersfoot.