English icon English
Foster Wales LGBTQ - Maethu Cymru LGBTQ

Nifer cynyddol o gartrefi LHDTC+ yn maethu yng Nghymru

Increasing number of LGBTQ+ households fostering in Wales

Mae gofalwyr maeth LHDTC+ yn gyfran llawer mwy o’r gofalwyr yng Nghymru, yn ôl ffigurau newydd.

Mae yna 56 o gartrefi LHDTC+ yng Nghymru, cynnydd o 30% o'i gymharu â 2024.

Yn ystod yr Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDTC+ hon, sy'n dechrau ar 2ail Mawrth, mae Maethu Cymru Sir Benfro yn annog pobl LHDTC+ i ystyried gwneud ymholiadau i ddod yn ofalwyr maeth a newid bywydau yn 2026.

Gall cyplau neu bobl sengl faethu, ac mae gan nifer o bobl LHDTC+ brofiad bywyd personol unigryw i'w gynnig i ofal plant a phobl ifanc.

Dywedodd Rheolwr Tîm Maethu Sir Benfro, Oliver Mathias: “Rydym yn gwybod bod plant a phobl ifanc yn ffynnu pan fyddant yn cael gofal gan oedolion sydd ag agwedd agored, tosturiol, ac sy’n gallu gwerthfawrogi pwy ydynt. Yn Maethu Cymru, rydym yn falch o groesawu gofalwyr o'r gymuned LHDTC+ ac o bob diwylliant, ffydd, strwythur teuluol a chefndir.

“Rydym wedi ymrwymo i barchu a dathlu amrywiaeth, ac i sicrhau bod pawb sy'n rhoi cynnig ar faethu yn cael eu trin ag urddas, tegwch a pharch. Yr hyn sydd bwysicaf i ni yw nid pwy ydych chi na phwy rydych chi'n ei garu, ond eich gallu i ddarparu cartref diogel, meithringar a chroesawgar lle gall plant deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u bod yn perthyn.”

Dywedodd Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru a Maethu Cymru: “Mae gofalwyr maeth yn gwneud gwahaniaeth eithriadol i blant a phobl ifanc bob dydd trwy gynnig sefydlogrwydd, dealltwriaeth a lle diogel i ffynnu. Maent yn defnyddio eu profiadau bywyd eu hunain, eu tosturi a’u gwydnwch i ddiwallu anghenion unigol pob plentyn. I rai plant, gall gofalwyr maeth eu helpu i symud tuag at fabwysiadu, a fydd yn darparu’r sicrwydd cydol oes yna sydd ei angen arnynt pan nad yw dychwelyd at eu teulu geni yn bosibl.

“Gyda chyn gymaint o blant angen cartrefi cariadus ar hyn o bryd, byddem yn annog unrhyw un sy’n ystyried maethu neu fabwysiadu i ddechrau sgwrs gyda’u tîm lleol heddiw.”

Gallwch ddilyn Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDTC+ ar-lein ac ar Twitter (@lgbtadoptfoster) a Facebook (@newfamilysocial).

Am ragor o wybodaeth am faethu ewch i: https://maethucymru.llyw.cymru/eisoes-yn-maethu/ / Dysgwch fwy am fabwysiadu yng Nghymru: https://adoptcymru.com/hafan/

 

Nodiadau i olygyddion

Ynglŷn â Maethu Cymru

Maethu Cymru yw'r rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu awdurdodau lleol dielw yng Nghymru. Ei brif nod yw rhoi cyfle i blant aros yn lleol, ffynnu a gwella eu cyfleoedd bywyd gyda gofalwyr maeth sy'n cael eu cefnogi'n dda.

Ynglŷn â Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru

Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru (GMC) yw'r cydweithrediad Cymru gyfan ar gyfer darparu gwasanaethau mabwysiadu. Mae wedi dod â gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol ynghyd i greu strwythur tair haen sy'n cynnwys partneriaethau ar bob lefel gydag asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol Cymru, gwasanaethau iechyd ac addysg, yn ogystal ag eraill.

Ynglŷn â New Family Social

New Family Social yw elusen cymorth i gyfoedion y DU ar gyfer mabwysiadwyr a gofalwyr maeth LHDTC+.

Caiff Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDTC+ ei chynnal o 2-6 Mawrth 2026.