Arolygwyr yn canmol ysgolion 'hapus, gofalgar a chefnogol'
Inspectors praise ‘happy, caring and supportive’ schools
Mae Ffederasiwn Ysgol Brynconin ac Ysgol Maenclochog yn Sir Benfro wedi cael ei disgrifio fel “cymuned, cartrefol a chefnogol” gan arolygwyr.
Ymwelodd Estyn, yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru, â Ffederasiwn Ysgol Brynconin ac Ysgol Maenclochog ym mis Mai, ac mae wedi rhyddau ei chanfyddiadau yn dilyn arolygiad llawn o’r Ffederasiwn.
Nodwyd yr adroddiad:
- Mae gan y ddwy Ysgol ddiwylliant cryf o ran diogelu disgyblion.
- Mae Ffederasiwn Ysgol Brynconin ac Ysgol Maenclochog yn gymuned hapus, cartrefol a chefnogol.
- Nodwyd bod staff y ddwy Ysgol yn ymrwymo i sicrhau ansawdd uchel o ofal a lles disgyblion gan greu awyrgylch dysgu cartrefol a chefnogol.
- Mae’r ddwy Ysgol yn gymuned lwyddiannus sy’n dathlu Cymreictod, cwrteisi a pharch disgyblion yn arbennig o dda.
- Yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol, mae llawer o ddisgyblion, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, yn gwneud cynnydd cryf o’u mannau cychwyn.
- Nodwyd fod balchder y disgyblion o’r Gymraeg yn rhinwedd hynod effeithiol ac mae balchder y disgyblion o hanes a diwylliant yr ardal leol yn nodwedd gref.
- Nodwedd gref y ddwy Ysgol yw y cyfleoedd bwriadus a roddir i’r disgyblion i ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n ymwneud â bywyd yr Ysgol. Mae cyfraniad y disgyblion at fywyd a gwaith yr ysgolion yn effeithiol.
- Mae’r berthynas rhwng yr ysgolion a’r gymuned yn hynod gadarn ac mae rhieni yn falch bod eu plant yn mynychu ysgolion sydd mor gefnogol ac sy’n gwbl ganolog i gymuned wledig.
- Mae’r ysgol a’r staff yn adnabod eu disgyblion, eu teuluoedd a’r gymuned leol yn dda iawn. Maent yn rhoi blaenoriaeth uchel i les a gofal disgyblion.
- Mae ethos o weithio fel tîm cynhyrchiol ymhlith yr athrawon a’r cynorthwywyr yn elfen nodedig o’r Ffederasiwn.
- Mae’r pennaeth yn arwain yr ysgol yn hynod effeithiol sydd ac mae ganddo weledigaeth clir o ran creu ethos gofalgar a chefnogol.
- Mae arweinyddiaeth ddoeth a chadarn y Pennaeth, mewn cydweithrediad gyda’r llywodraethwyr a staff wedi datblygu cymuned ddysgu effeithiol o fewn y ddwy Ysgol lle mae’r disgyblion yn teimlo’n ddiogel ac yn ffynnu.
Dywedodd y Pennaeth, Edryd Eynon: “Rwyf wrth fy modd gyda’r adroddiad hwn. Mae Ffederasiwn Ysgol Brynconin ac Ysgol Maenclochog yn arbennig ac rwy’n hynod falch i fod yn Bennaeth ar y ddwy Ysgol.
“Hoffwn ganmol y staff a’r llywodraethwyr rhagorol sydd wedi gweithio’n ddi-baid i sicrhau bod pob disgybl yn cael ei werthfawrogi a bod eu lles a’u cynnydd yn eu dysgu yn hollbwysig.
“Mae Ffederasiwn Ysgol Brynconin ac Ysgol Maenclochog yn ysgolion y gall ein disgyblion, teuluoedd a’r gymuned ehangach fod yn falch iawn ohonynt.
Ychwanegodd Cadeirydd y Corff Llywodraethol, David Howell: “Rwy’n hynod falch o ddisgyblion, staff a Llywodraethwyr Ffederasiwn Ysgol Brynconin ac Ysgol Maenclochog. Roedd yn bleser croesawu’r tîm arolygu, ac roeddwn yn falch eu bod wedi gallu gweld beth sydd mor wych am ein hysgolion – yn arbennig eu sylwadau ar y cydweithio arbennig sydd yn digwydd rhwng y ddwy Ysgol.
“Rydym yn adnabod ein hysgolion yn dda a gallwn oll fod yn hynod falch o’r adroddiad hwn; adlewyrchiad da o waith caled ac arbennig rhanddeiliaid Ffederasiwn Ysgol Brynconin ac Ysgol Maenclochog.”