Us girls July 2026 1

Ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ferched i feithrin cariad at chwaraeon

Inspiring the next generation of girls with a love of sport

Rhannu:

Gwnaeth mwy na 70 o ferched Ysgol Bro Gwaun ac Ysgol Penrhyn Dewi fwynhau bore llawn chwaraeon a hwyl yng Nghanolfan Hamdden Abergwaun ddydd Llun 6 Gorffennaf.

Nod y digwyddiad, a drefnwyd gan Chwaraeon Sir Benfro ac a noddwyd gan Valero, oedd annog mwy o bobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon drwy ddarparu cyfleoedd iddyn nhw roi cynnig ar ystod eang o weithgareddau mewn amgylchedd hwyliog a chefnogol.

Cymerodd y cyfranogwyr ran mewn sesiynau gan gynnwys pêl-droed gyda Chlwb Ieuenctid Abergwaun, rygbi gyda Chlwb Rygbi Merched Hendy-gwyn ar Daf, hoci gyda Chlwb Hoci Abergwaun ac Wdig, taekwondo, tenis, hwylio, tenis bwrdd, rhwyfo a bowlio. Cawson nhw gyfle hefyd i brofi'r ystafell ffitrwydd yng Nghanolfan Hamdden Abergwaun.

Cefnogwyd y digwyddiad gan Lysgenhadon Ifanc o Ysgol Bro Gwaun, a helpodd i gynnal gweithgareddau drwy gydol y bore.

Us girls July 2026 4

Roedd lluniaeth wedi’i ddarparu’n garedig gan Morrisons a Princes Gate, tra bod Hair Syrup a Boots wedi rhoi detholiad o roddion i’r cyfranogwyr.

Dywedodd Dan Bellis o Chwaraeon Sir Benfro: “Am fore gwych o weithgareddau hwyliog i’r merched. Diolch yn fawr i'r holl grwpiau am gynnig ystod mor eang o weithgareddau, y Llysgenhadon Ifanc am eu cymorth ac i'r holl fusnesau lleol a ddarparodd luniaeth a rhoddion.

Us girls July 2026 2

“Gobeithiwn fod y merched wedi cael eu hysbrydoli heddiw i roi cynnig ar rai gweithgareddau newydd.”

Roedd y merched yn frwdfrydig am y cyfleoedd i roi cynnig ar chwaraeon a gweithgareddau newydd.

Dywedodd un cyfranogwr: “Roedd hynny’n gymaint o hwyl. Roedd hi’n wych rhoi cynnig ar gymaint o weithgareddau hwyliog.”

Ychwanegodd un arall: “Roeddwn i wrth fy modd yn rhoi cynnig ar yr holl chwaraeon gwahanol, yn enwedig rhai nad oeddwn i wedi’u gwneud o’r blaen.”

Dywedodd trydydd cyfranogwr: “Doeddwn i erioed wedi bod yn y gampfa o’r blaen felly roedd hi’n hwyl gallu mynd ar y beiciau a’r peiriannau rhedeg.”

Mae'r digwyddiad yn rhan o ymrwymiad parhaus Chwaraeon Sir Benfro i ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc ddarganfod chwaraeon newydd, meithrin hyder a datblygu arferion gydol oes o weithgarwch corfforol.

Us girls July 2026 3