English icon English
Bridge Innovation Centre 2 - Canolfan Arloesi Pont 2

Gwahoddiad i Arloesi: Diwrnod Agored yng Nghanolfan Arloesi'r Bont

Invitation to Innovation: Open Day at the Bridge Innovation Centre

Bydd Canolfan Arloesi'r Bont yn agor ei drysau i groesawu ymwelwyr yn ddiweddarach yn y mis.

Cynhelir y digwyddiad tŷ agored yn y ganolfan, sydd wedi'i lleoli yn Nwyrain Llanion, Doc Penfro, ddydd Iau, 26 Mehefin, rhwng 9.30am a 7pm.

Gwahoddir mynychwyr i ddarganfod mwy am gyfleusterau'r ganolfan a'r gymuned fusnes a bydd cyfle i fynd ar daith o amgylch yr adeilad a'i unedau twf cyfagos.

Mae'r ganolfan yn cynnig amrywiaeth o gyfleusterau i fusnesau allanol sy'n chwilio am safle ar gyfer digwyddiad proffesiynol neu leoliad cyfarfod. Mae'r adeilad yn cynnwys atriwm anhygoel gyda chapasiti ar gyfer hyd at 150 o bobl, yn ogystal â sawl ystafell gyfarfod â chapasiti llai a mannau ar gyfer grwpiau trafod llai. Mae arlwywr ar gael yn y safle hefyd i ddarparu lluniaeth.

Mae'r adeilad unigryw yn cynnal rhaglen ddigwyddiadau amrywiol i gefnogi menter, gan gynnwys digwyddiad galw heibio cymorth busnes misol, ac mae'n darparu lleoliad ag enw da i fusnesau arloesol a’r rhai sy’n tyfu yn Sir Benfro.

Dywedodd John Likeman, tenant yng Nghanolfan Arloesi'r Bont: "Mae Raven Technologies wedi elwa o allu rhwydweithio a chydweithio â thenantiaid eraill. Fel cwmni technoleg addysg blaenllaw, rydym bellach yn allanoli ein holl godio i sefydliadau sydd wedi'u lleoli yng Nghanolfan Arloesi’r Bont.

“Fel tenantiaid, mae gennym gyfleoedd i gymdeithasu a rhwydweithio’n rheolaidd gyda chwmnïau eraill, i gydweithio i gefnogi'r gymuned leol a hyd yn oed i ganu mewn côr gyda'n gilydd. Mae hyfforddiant defnyddiol ar gael yn rheolaidd i ni i gyd, a gellir trafod materion llai o ddydd i ddydd gyda'r tîm amlddisgyblaethol, sydd ar gael bob dydd."

Bridge Innovation Centre 1 - Canolfan Arloesi Pont 1

Dywedodd Peter Lord, Prif Swyddog Datblygu Busnes Cyngor Sir Penfro: "Mae'r ganolfan wedi cael ei huwchraddio’n sylweddol o ran ei chyfleusterau cynadledda a chyfarfod. Mae gennym hefyd nifer fach o swyddfeydd a gweithdai sydd wedi'u gwagio'n ddiweddar gan fusnesau sydd wedi mynd yn rhy fawr i'r safle ac rydym yn falch o arddangos y cyfleusterau hyn i ddarpar denantiaid newydd.”

I wybod mwy am fanteision dod yn denant, neu gynnal digwyddiad corfforaethol yn y lleoliad hwn, archebwch eich lle am ddim drwy:    Tocynnau Diwrnod Agored Canolfan Arloesedd, Sawl Dyddiad | Eventbrite neu e-bostiwch BusinessSupport@pembrokeshire.gov.uk