
IRONMAN Cymru yn dychwelyd i Sir Benfro
IRONMAN Wales returns to Pembrokeshire
Bydd IRONMAN Cymru yn dychwelyd i Sir Benfro ddydd Sul a bydd ffyrdd ar gau yn gyfan gwbl ac yn rhannol o amgylch de y Sir.
Bydd IRONMAN Cymru yn cael ei gynnal ddydd Sul, 21 Medi a bydd miloedd o athletwyr o bob cwr o'r byd yn cymryd rhan mewn ras nofio 2.3 milltir, ac yna taith feicio 112 milltir cyn gorffen drwy redeg 26.2 milltir.
Bydd y nofio'n dechrau am 7.25am o Draeth y Gogledd yn Ninbych-y-pysgod.
Mae gwybodaeth lawn yn nodi’r ffyrdd fydd ar gau a’r dargyfeiriadau sydd ar gael ym mhob rhan o’r cwrs yn https://www.ironman.com/races/im-wales/traffic-impact i helpu trigolion i gynllunio eu teithiau.
Bydd yr A40 a'r A477 yn aros ar agor ac ni fydd effaith arnynt i hwyluso mynediad o'r dwyrain i'r gorllewin drwy gydol y digwyddiad.
Bydd y gwasanaethau brys yn cynnal mynediad llawn bob amser.
Oherwydd y bydd ffyrdd ar gau, ni fydd yn bosibl i'r gwasanaeth bws 387/388 (Gwibfws yr Arfordir) weithredu ddydd Sul 21 Medi.
Gellir lawrlwytho mapiau yn dangos y ffyrdd fydd ar gau hefyd o https://www.ironman.com/races/im-wales/traffic-impact
Bydd cyfyngiadau hefyd yng nghanol tref Dinbych-y-pysgod ddydd Sadwrn 20 Medi pan fydd IRONKIDS o bob cwr o'r sir yn cymryd rhan yn eu cystadleuaeth eu hunain.
Bydd bws siwrne parcio a theithio yn rhedeg ar ddydd Sadwrn a dydd Sul o Faes Awyr Carew i Ddinbych.
Gweler rhagor o wybodaeth am fysiau gwennol yn: https://www.ironman.com/sites/default/files/2025-09/IMWA%20Shuttle%20Bus%20Parking%20Information%202025.pdf
Mae'r canllaw llawn ar gyfer cefnogwyr ar gael yn: https://www.ironman.com/sites/default/files/2025-08/IM%20WALES%20SPECTATOR%20GUIDE%202025.pdf
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am IRONMAN Cymru, cysylltwch â wales@ironmanroadaccess.com neu ffoniwch 03330 11 66 00 a rhowch y manylion canlynol:
- Enw
- Rhif ffôn
- Cod Post Dechrau’r Daith
- Cod Post Diwedd y Daith
- Amser Gadael
- Manylion yr Ymholiad
Sylwch na fydd y cyfeiriad e-bost yn cael ei fonitro dros benwythnos y digwyddiad, felly cynlluniwch ymlaen llaw.