Isetholiad wedi’i alw yn dilyn marwolaeth drist cynghorydd sir
By-election called following sad death of County Councillor
Cynhelir isetholiad yng Ngogledd-ddwyrain Abergwaun yn dilyn marwolaeth drist y cynghorydd sir Jordan Ryan ym mis Tachwedd.
Cyhoeddir hysbysiad etholiad ddydd Llun 5 Ionawr 2026. Rhaid i unrhyw un sy'n dymuno sefyll mewn etholiad gyflwyno eu papurau enwebu i'r swyddog canlyniadau rhwng 6 Ionawr a 14 Ionawr, rhwng 10am a 4pm. Gellir dod o hyd i fanylion pellach ynghylch enwebiadau ar yr hysbysiad etholiad.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gael papurau enwebu, anfonwch neges e-bost i electoralservices@pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch y llinell gymorth etholiadau ar 01437 775844.
Cyhoeddir y datganiad am y sawl a enwebwyd ar ôl i’r cyfnod enwebu ddod i ben. Os bydd ymgeisydd yn penderfynu ei gystadlu, bydd yr isetholiad yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 10 Chwefror.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn gynghorydd, gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar dudalen Gwasanaethau Democrataidd gwefan y cyngor.
Gellir dod o hyd i fanylion am sut i gofrestru i bleidleisio ar wefan Cyngor Sir Penfro.
Dywedodd y swyddog canlyniadau, Will Bramble: “Roeddem i gyd yn drist iawn o glywed am farwolaeth y Cynghorydd Jordan Ryan, a ymunodd â’n cyngor yn 2022. Mae ei farwolaeth wedi arwain at sedd wag yng Ngogledd-ddwyrain Abergwaun. Byddwn yn annog trigolion y ward i gofrestru i bleidleisio a phleidleisio yn yr etholiad sydd i ddod.”
Anfonir cardiau pleidleisio at etholwyr cyn yr etholiad a fydd yn nodi pa orsaf bleidleisio i bleidleisio ynddi.