Ymunwch â gwledd o hwyl i’r teulu, pêl-droed a bwyd!
Join a feast of family fun, football and food!
Mae gwledd o bêl-droed gwych a bwyd bendigedig ar ei ffordd i amgylchoedd ysblennydd Castell Penfro ym mis Mai, gan godi arian i elusen hanfodol ar yr un pryd.
Bydd Gŵyl Cynghrair y Pen-wledd-wyr, sy’n cael ei threfnu gan dimau Adfywio a Chymorth Busnes Cyngor Sir Penfro, yn gweld timau Pêl-droed Stryd yn chwarae ar y caeau o fewn muriau’r Castell godidog wrth i gefnogwyr a theuluoedd fwynhau bwyd, cerddoriaeth a hwyl wych.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Gwener 24 Mai yng Nghastell Penfro rhwng 4pm a 10pm a bydd mynediad am ddim i’r rhai nad ydyn nhw’n chwarae fel rhan o dîm (gweler isod sut i archebu tocynnau ar-lein).
Bydd cyrtiau pêl-droed wedi’u llenwi ag aer ac ymarfer targed yn cadw’r plant bach yn brysur wrth i Samba Doc, dawnswyr stryd a Radio Pure West greu naws penwythnos gŵyl y banc.
Bydd y digwyddiad yn cefnogi elusen 2 Wish, a gafodd ei sefydlu gan Rhian Mannings, un o Neyland yn wreiddiol.
Sefydlodd Rhian yr elusen yn dilyn marwolaeth sydyn ei mab bach George a’i gŵr Paul o fewn pum diwrnod i’w gilydd yn 2012.
Cafodd 2 Wish ei chreu er cof amdanyn nhw i gefnogi rhieni sy’n dioddef profedigaeth yn sydyn ac mae’n gweithredu ledled Cymru erbyn hyn.
Mae tîm 2 Wish yn eiriolwyr brwd iawn dros bŵer iachau chwaraeon a gweithgareddau grŵp, felly nhw yw’r partneriaid perffaith ar gyfer y digwyddiad.
Ethos y digwyddiad yw hwyl mewn tîm a hwyl i’r teulu, cynhwysiant a chwarae teg, gan hefyd ddathlu sîn bwyd stryd gyffrous Sir Benfro.
Un o’r trefnwyr yw’r cyn-bêl-droediwr proffesiynol Jo Price, sydd erbyn hyn yn Swyddog Adfywio Cymunedol yng Nghyngor Sir Penfro.
Chwaraeodd Jo i Arsenal a Chymru ac mae’n dod ag arbenigedd ac angerdd ac mae’n hyrwyddwr brwd o Bêl-droed Stryd.
Mae Jo hefyd wedi cael ei henwi’n Brif Hyfforddwr Tîm Cenedlaethol Menywod Pêl-droed Stryd Cymru ar gyfer twrnamaint a fydd yn cael ei gynnal yn Nulyn yn ddiweddarach eleni.
Meddai Jo: "Peth da’r fformat hwn yw ei hygyrchedd – mae’n addas ar gyfer pob gallu ac nid oes angen unrhyw brofiad arnoch chi.
"Mae’n ymwneud â gwaith tîm, mwynhau a chynhwysiant a beth allai fod yn well ar gyfer penwythnos gŵyl y banc na bwyd a phêl-droed, cerddoriaeth a hwyl a’r cyfan ar gyfer achos mor wych."
Dywedodd y cyd-drefnydd Maria Goddard, Swyddog Datblygu Economaidd – Sector Bwyd y Cyngor: "Rydyn ni’n hynod gyffrous i ddod â’n cariad at chwaraeon, bwyd a gwyliau at ei gilydd ar gyfer y digwyddiad unigryw hwn.
"Rydyn ni hefyd yn croesawu nawdd gan fusnesau lleol i sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i fwynhau’r ŵyl pêl-droed a bwyd gyntaf o’i math. Dewch i ymuno â ni yn yr hyn sy’n addo bod yn ddiwrnod gwych i’r teulu."
Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad yn rhad ac am ddim ond mae angen eu harchebu ar-lein.
Rydyn ni’n croesawu rhoddion ar gyfer 2 Wish, wrth y fynedfa.
Rydyn ni hefyd yn chwilio am noddwyr lleol i gefnogi’r digwyddiad ac mae amrywiaeth o gyfleoedd ar gael. Os hoffech chi helpu, cysylltwch â chompionsleaguefestival@pembrokeshire.gov.uk
Bydd timau (rhaid i chwaraewyr fod yn 16+ oed) yn cynnwys 10 chwaraewr gyda phedwar chwaraewr o bob ochr ar y cwrt ar unrhyw adeg gydag eilyddion yn dod ymlaen yn rheolaidd.
Pris mynediad fesul tîm yw £100.
Am fwy o wybodaeth, ewch i'r dudalen Facebook a dilynwch Instagram.