English icon English
kick-start-4-cym

Ymunwch â rhaglen Prentisiaeth TGCh y Cyngor a dechrau gyrfa ym maes datblygu TG

Join Council’s ICT Apprenticeship programme and kick-start a career in IT development

A ydych chi'n chwilio am lwybr i fyd deinamig technoleg sy'n newid yn barhaus?

Os oes ganddoch chi angerdd am ddatrys problemau a chreu atebion arloesol, yna rhaglen brentisiaeth Cyngor Sir Penfro yw'r lle perffaith i ddechrau i ddarpar ddatblygwr TG.

Mae ein rhaglen yn cynnig cyfle unigryw i chi ennill profiad ymarferol, ennill cyflog wrth i chi ddysgu, a datgloi eich potensial ym maes datblygu TG.

Dechreuwch eich taith gyda’r Cyngor a dod yn rhan allweddol o lunio’r tirwedd ddigidol.

Mae angen dri pherson i ddechrau ein rhaglen bresennol ym Medi 2023.

Dywedodd y Cynghorydd Neil Prior, Aelod Cabinet dros Wella Corfforaethol a Chymunedau: "Yng Nghyngor Sir Penfro rydym wedi ymrwymo i wneud y mwyaf o dechnoleg i ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus, felly mae hwn yn gyfle delfrydol i ddatblygu sgiliau ar gyfer y dyfodol a bod yn rhan o dîm gwych."

Pam dewis Prentisiaeth TGCh

  • Ennill profiad yn y byd go iawn yn gweithio ochr yn ochr â thîm profiadol, gan ddefnyddio technolegau ac offer arloesol
  • Datblygu sgiliau y mae galw amdanynt mewn meysydd fel rhwydweithio, seiberddiogelwch, rhaglennu, dadansoddi data, dylunio digidol a llawer mwy
  • Datgloi llwybr gyrfa sy'n cynnig cyfleoedd diddiwedd i chi
  • Gweithio tuag at gymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant wrth i chi weithio
  • Manteisio ar arweiniad a chymorth gan fentoriaid profiadol drwy gydol eich taith brentisiaeth

Cymhwyster a chyflog

  • Blwyddyn 1–2: BTEC: Diploma Estynedig Cenedlaethol Lefel 3 mewn Cyfrifiadura – £16,000

Beth yw'r gofynion?

  • Pum TGAU ar Radd C neu uwch, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg neu BTEC Lefel 2 gyda Theilyngdod neu Ragoriaeth, yn ogystal â TGAU gradd 4 neu uwch neu Sgiliau Gweithredol ar lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg.
  • Cais cychwynnol: Mae pob cais yn cael ei ystyried yn unigol
  • Diwrnod asesu: Os byddwch yn llwyddiannus yn y cam ymgeisio, cewch eich gwahodd i ddiwrnod asesu ar 31 Gorffennaf 2023 yn Archifdy Sir Benfro, Hwlffordd

Yn amodol ar gwblhau'r BTEC Lefel 3 yn llwyddiannus, a bodloni safonau ymarfer gwaith y Gwasanaeth TGCh, gallwch gymryd y cam nesaf ar daith y datblygwr i fod yn:

Datblygwr TG Iau

  • Blwyddyn 3-4: HNC Cyfrifiadura Cymhwysol

 

Ac o bosibl symud ymlaen i fod yn:

 

Datblygwr TG

  • Blwyddyn 5-7: Prentisiaeth Gradd Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol

 

Am fwy o wybodaeth ac i wneud cais: Prentisiaeth TGCh