English icon English
Gwneuthurwyr rhyfeddol-3

Ymunwch â'r Crefftwyr Campus ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf am ddim

Join the Marvellous Makers for free Summer Reading Challenge

Mae pobl ifanc Sir Benfro sy’n gwirioni ar lyfrau yn cael eu hannog i gymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf 2024 a rhyddhau eu dychymyg gyda'r Crefftwyr Campus.

Mae Sialens Ddarllen yr Haf, a gyflwynir gan The Reading Agency ac a gyflwynir mewn partneriaeth â Llyfrgelloedd Sir Benfro, yn annog plant 4-11 oed i ddarllen am hwyl dros wyliau'r haf.

Bydd Cymeriadau Crefftwyr Campus, a ddyluniwyd gan y darlunydd enwog Natelle Quek, i gyd yn gwneud rhywbeth anhygoel gyda’r nod o danio dychymyg plant a meithrin y ddawn o ddweud stori a chreadigrwydd trwy bŵer darllen.

Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn hwyl a chewch ymuno am ddim pan fydd yn cael ei lansio ddydd Sadwrn 6 Gorffennaf.

Cofrestrwch eich plentyn yn eich llyfrgell leol, gosodwch nod darllen ar gyfer yr haf a benthyg a darllen llyfrau, e-lyfrau a llyfrau llafar.

Derbyniwch boster yr her a chasglwch sticeri a chael gwobrau arbennig am ddarllen.

Os nad ydych yn aelod o'r llyfrgell, bydd angen i chi ddod â cherdyn adnabod sy'n cynnwys eich cyfeiriad.

I gael ysbrydoliaeth ynghylch beth i'w ddarllen ewch i gatalog ar-lein Llyfrgelloedd Sir Benfro, dewiswch 'Dewch o Hyd i Lyfrau' a chwiliwch am gasgliad llyfrau 'Crefftwyr Campus'.

Mae'r rhestr o lyfrau yn cynnwys rhai Saesneg a Chymraeg ac yn cynnwys llyfrau lluniau, llyfrau i ddarllenwyr cynnar a llyfrau ffeithiol.

Gallwch hefyd ymuno â'r sialens ar-lein yn sialensddarllenyrhaf.org.uk lle gallwch osod nod darllen a chael argymhellion ac awgrymiadau am lyfrau a datgloi bathodynnau digidol a gwobrau ar-lein, gan gynnwys tystysgrif y gellir ei hargraffu.

Profwyd bod Sialens Ddarllen yr Haf yn gwella hyder darllen plant yn sylweddol, gan sicrhau eu bod yn barod ar gyfer mynd yn ôl i'r ysgol yn yr hydref.

Mae hefyd yn rhoi cyfle i deuluoedd gael mynediad at lyfrau a gweithgareddau hwyliog i'r teulu drwy gydol yr haf – i gyd am ddim.

I'r rhai sy’n bwriadu bod yn greadigol gyda'u plentyn/plant yn ystod gwyliau'r haf, cysylltwch â'ch llyfrgell leol am y sesiynau crefft a stori AM DDIM i blant 4-11 oed.

Ymunwch i gael hwyl grefftus a chreadigol.