Wythnos i fynd tan y bydd Ffair Aeaf Glan yr Afon yn dod i dref Hwlffordd ddydd Sadwrn 30 Tachwedd!
Kick off the festive season in style at the Riverside Winter Fair
Paratowch i ymgolli mewn gŵyl y gaeaf wrth i Hwlffordd gynnal Ffair Aeaf Glan yr Afon ddydd Sadwrn, 30 Tachwedd.
Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim hwn, sy'n addas i'r teulu, yn ddiwrnod o hwyl yr ŵyl gyda bwyd, celf, crefftau, gemau, cerddoriaeth, a llawer iawn o ysbryd cymunedol.
Mae'r digwyddiad wedi'i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gyngor Sir Penfro, gyda chyllid ychwanegol gan Gyngor Tref Hwlffordd a Siambr Fasnach Hwlffordd.
Bydd y dathliadau'n cychwyn am 11am gydag agoriad Marchnad Aeaf Haverhub. Rhwng 11am a 5pm, gall ymwelwyr ymweld â stondinau sy’n cynnig anrhegion, crefftau a bwyd blasus unigryw. Ochr yn ochr â'r farchnad, bydd Cylch Busnes Hwlffordd yn cynnal marchnad fwyd a diod "Blas Sir Benfro" ar Sgwâr y Castell rhwng 11am a 5pm, gan gynnig detholiad blasus o gynnyrch lleol.
Bydd Chwarae Teg yn cynnal Gŵyl Gemau Bwrdd yng Nghanolfan Ieuenctid The Edge / Canolfan Picton rhwng 11:00am a 5:00pm. Bydd y digwyddiad yn cynnwys amrywiaeth o gemau, gweithgareddau a phrosiectau celf, gan ddarparu profiad hwyliog fydd yn hoelio sylw plant o bob oed.
Am 12pm bydd plant o ysgolion cynradd Hwlffordd yn arddangos baneri y maent wedi bod yn eu creu fel rhan o brosiect celfyddydau cymunedol, yn adrodd hanes ardal ward eu hysgol. Byddant yn cymryd rhan mewn gorymdaith fywiog dan arweiniad Band Heddlu De Cymru, gan orymdeithio trwy ganol y dref o Sgwâr yr Alarch i'r Hen Gei. Ymunwch â ni am 11:45am ar Sgwâr yr Alarch i fod yn rhan o'r parêd!
Unwaith y bydd yr orymdaith yn cyrraedd yr Hen Gei bydd yr hwyl go iawn yn dechrau. Bydd y prif lwyfan yn cynnal amrywiaeth o berfformiadau drwy gydol y dydd o 12 tan 4pm a bydd Bristol Trader yn cynnal bar awyr agored.
Bydd adloniant ar y prif lwyfan yn cynnwys cantata newydd sbon a berfformir gan gôr plant Ysgol Fenton, Cantorion Cantabile o Sir Benfro, y Gerddorfa Sirol a Band Pres Heddlu De Cymru. Bydd y perfformiad hudolus hwn yn adrodd hanes cyfoethog Hwlffordd, gan dynnu ysbrydoliaeth o ddarganfyddiadau archeolegol diweddar.
Yn dilyn y cantata, bydd y band lleol Sorted yn camu i'r llwyfan, gan gyflwyno perfformiad egni uchel o glasuron Ska a Two-Tone. Mae eu setiau byw egnïol yn siŵr o wneud i chi godi ar eich traed a dawnsio.
Bydd yr artistiaid Neil Musson a Jono Retallick hefyd yn lansio eu model balŵn aer poeth, oriel sy’n hofran ac yn talu teyrnged i bobl Hwlffordd. Dewch o hyd iddynt yn hofran drwy'r dref drwy gydol y dydd!
I'r rhai sy'n chwilio am gyffro, bydd teithiau ffair i'w mwynhau. Bydd ffair a reidiau Atyniadau Sir Benfro yn siŵr o roi gwefr a chyffro i bobl a phlant o bob oed. I ychwanegu at yr hud, bydd Siôn Corn yn gwneud ymddangosiad arbennig, gyda Sparkle y Corrach a’i Ffrindiau, Glôb Eira Anferth a Chastell Sboncio!
Ac ar gyfer y diweddglo mawreddog bydd Pure West Radio, Cyngor Tref Hwlffordd a Siopa Glan yr Afon, Hwlffordd yn cynnal ei ddigwyddiad blynyddol o droi’r Goleuadau Nadolig ymlaen. Mae'r dathliadau'n dechrau am 12:00pm, yn arwain at y foment fawr pan fydd goleuadau Nadolig y dref yn goleuo am 6:00pm! Wrth i'r dref gael ei goleuo gan oleuadau'r Nadolig, bydd arddangosfa tân gwyllt ysblennydd yn goleuo awyr y nos.
Mae Ffair Aeaf Glan yr Afon yn fwy na dim ond digwyddiad; mae'n ddathliad o ysbryd cymunedol. Busnesau a gwirfoddolwyr lleol yn dod at ei gilydd i greu profiad cofiadwy i bawb.
Ewch i'n gwefan a chofrestrwch i dderbyn y rhestr bostio i gael y wybodaeth lawn yn syth i'ch mewnflwch cyn y diwrnod mawr: www.riversidewinterfair.co.uk
Rhaglen y digwyddiadau
11am-5pm Marchnad y Gaeaf yn Haverhub
11am-5pm Marchnad bwyd a diod Blas Sir Benfro yn Sgwâr y Castell
11am-5pm Gŵyl Gemau Bwrdd yng Nghanolfan Picton
11:45am Parêd Baneri yn ymgynnull gyda Band Pres Heddlu De Cymru yn Sgwâr yr Alarch
12pm Parêd Baneri Plant o Sgwâr yr Alarch i’r Hen Gei
12:10pm-4pm Adloniant ar y Prif Lwyfan yn yr Hen Gei
12-4pm Bar awyr agored y Bristol Trader
12pm-6pm Adloniant a Hwyl i'r Teulu, Pure West Radio yng Nghanolfan siopa Glan yr Afon
6pm Troi'r goleuadau ymlaen a'r arddangosfa tân gwyllt!