
Lansio cynllun Cymorth Prynu Sir Benfro i helpu’r rhai sy’n prynu am y tro cyntaf
Homebuy Pembrokeshire scheme launched to help first-time buyers
Mae cynllun tai fforddiadwy newydd wedi cael ei lansio yn Sir Benfro sy’n helpu’r rhai sy’n prynu am y tro cyntaf i gael mynediad i’r farchnad dai a phrynu eu cartref cyntaf.
Mae Cynllun Prynu Sir Benfro, sy’n cael ei ariannu gan y Premiwm Ail Gartref, yn mynd i’r afael â rhai o’r materion y mae prynwyr yn eu hwynebu wrth geisio prynu cartref.
Mae amrywiadau mawr ym mhrisiau eiddo ar draws Sir Benfro yn golygu nad yw’r rhai sy’n prynu am y tro cyntaf yn gallu fforddio prynu mewn llawer o ardaloedd. Hyd yn oed ar ôl cynilo blaendal a sicrhau mynediad i forgais, gall prisiau tai fod yn rhwystr o hyd i berchentyaeth.
Bydd Cymorth Prynu Sir Benfro, a ddarperir gan Gyngor Sir Penfro, yn helpu i ddileu’r rhwystr hwn drwy ddarparu benthyciad o hyd at 30% o werth yr eiddo a ddefnyddir i’w brynu.
Heb unrhyw log i’w dalu, caiff y benthyciad ei sicrhau yn erbyn yr eiddo fel pridiant cyfreithiol, a chaiff y gwerth ei gysylltu â gwerth presennol yr eiddo ar y farchnad.
Bydd y cynllun hwn ar gael ar gyfer eiddo ar y farchnad agored yn y Sir, gyda chymorth ychwanegol os bydd y prynwr eisiau prynu ‘eiddo gwag’.
Mae cynlluniau ledled Cymru sy’n helpu pobl i brynu eiddo newydd. Mae Cymorth Prynu Sir Benfro yn wahanol a dim ond ar gyfer y farchnad tai agored gyffredinol yn Sir Benfro mae ar gael.
O dan y cynllun hwn, bydd prynwyr yn gallu gwneud ad-daliad pan fydd arian ar gael, gan eu galluogi i sicrhau perchenogaeth lawn.
Dywedodd y Cynghorydd Michelle Bateman, yr Aelod Cabinet dros Dai, “Mae lansio Cymorth Prynu Sir Benfro yn rhan o ymrwymiad y weinyddiaeth i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy o bob daliadaeth.
“Rydym yn gwybod bod yna rwystrau sy’n atal pobl rhag gallu camu ar yr ysgol dai, ac rydym yn gobeithio, gyda’r cymorth hwn, y gallwn ni roi cyfle i’r rhai sy’n prynu am y tro cyntaf berchen ar eu cartref eu hunain.
“Mae’r cynllun yn rhan o ystod eang o fesurau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r argyfwng tai, gan gynnwys ein rhaglen datblygu a chaffael, Cynllun Lesio Cymru a chymorth i’r rhai sydd eisiau gwneud defnydd newydd o eiddo gwag.”
Mae helpu trigolion lleol yn rhan bwysig o Cymorth Prynu Sir Benfro, sy’n ei gwneud yn ofynnol i bob ymgeisydd brofi bod ganddo gysylltiad lleol â’r Sir i fod yn gymwys, ynghyd â ffactorau cymhwyso eraill.
Mae’r cynllun hwn wedi sicrhau £1 filiwn i redeg fel prosiect peilot, a fydd yn buddsoddi unrhyw elw ar fenthyciadau i helpu i dyfu rhaglen tai fforddiadwy’r Sir.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y cynllun hwn, neu sut y gallwch chi gael mynediad i’r benthyciad hwn, mae gwybodaeth bellach ar gael ar dudalen we Cymorth Prynu Sir Benfro neu drwy gysylltu â affordablehousing@pembrokeshire.gov.uk neu 01437 764551.