Y rownd ddiweddaraf o grantiau Gwella Sir Benfro i agor
Latest round of Enhancing Pembrokeshire grants to open
Bydd y rownd ddiweddaraf o gyllid sydd ar gael drwy'r Grant Gwella Sir Benfro sy'n cael ei redeg gan Gyngor Sir Penfro yn agor yn fuan.
Mae'r Grant eisoes wedi cefnogi dros 300 o sefydliadau ledled Sir Benfro gyda mwy na £6m o gyllid, ar gyfer ystod eang o brosiectau cymunedol.
Pwrpas y Grant yw gwrthbwyso effeithiau negyddol perchnogaeth ail gartrefi mewn cymunedau lleol.
Mae cylch cyllido 2026-2027 yn cynnig tua £142,000 o Bremiwm Treth Cyngor Ail Gartrefi'r Cyngor, ar gyfer grantiau o hyd at £15,000.
Gwahoddir datganiadau o ddiddordeb rhwng 1 Hydref 2026 a 30 Hydref 2026.
Croesewir ymholiadau gan elusennau, mentrau cymdeithasol, Cynghorau Tref a Chymuned a grwpiau cymunedol cyfansoddedig.
Dywedodd Aelodau'r Cabinet dros Gymunedau, y Cynghorwyr Aaron Carey a Sam Skyrme-Blackhall: "Mae'r Grant Gwella Sir Benfro yn parhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau ledled y sir, gan helpu sefydliadau lleol i gyflawni prosiectau fydd o fudd i drigolion ac yn cryfhau bywyd cymunedol.
“Ers ei gyflwyno, mae'r cynllun wedi cefnogi cannoedd o brosiectau ac wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd mewn mentrau sy'n helpu i fynd i'r afael ag effeithiau perchnogaeth ail gartrefi yn ein cymunedau.
“Byddem yn annog grwpiau, elusennau, mentrau cymdeithasol a Chynghorau Tref a Chymuned cymwys i ystyried sut y gallai'r cyllid hwn gefnogi blaenoriaethau lleol a helpu i ddod â gwelliannau cadarnhaol i'w hardal.
“Edrychwn ymlaen at dderbyn datganiadau o ddiddordeb a gweld y manteision y bydd y rownd ddiweddaraf hon o gyllid yn eu darparu i gymunedau ledled Sir Benfro.”
Gallwch ddarganfod mwy am y Grant Gwella Sir Benfro yn: https://www.sir-benfro.gov.uk/grant-gwella-sir-penfro