Active travel competition - Cystadleuaeth Teithio Egnïol

Logo Lillian yw enillydd y gystadleuaeth Teithio Llesol

Lillian’s logo is the Active Travel winner

Rhannu:

Mae disgybl o Sir Benfro yn dathlu llwyddiant ar ôl i'w dyluniad gael ei ddewis fel logo Teithio Llesol newydd y sir.

Cyhoeddwyd mai Lillian Richards, disgybl Blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd Cleddau Reach, yw enillydd cystadleuaeth Diogelwch ar y Ffyrdd a Thrafnidiaeth a ofynnodd i ddisgyblion ledled y sir greu logo newydd ar gyfer Teithio Llesol.

Bydd ei dyluniad bellach yn cael ei ddefnyddio ar wefan Cyngor Sir Penfro ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Roedd ymgais Lillian yn sefyll allan ymhlith nifer uchel o gyflwyniadau rhagorol am ei arddull llachar, lliwgar ac am gynnwys ystod o opsiynau Teithio Llesol.

Ar ôl ei buddugoliaeth, datblygwyd y dyluniad yn logo terfynol gan dîm graffeg y Cyngor, a gwnaeth Tom Banner ei fireinio i fformat proffesiynol.

Active Travel logo - Logo Teithio Egnïol

Cyflwynwyd tystysgrif a gwobr i Lillian yn ei hysgol gan Sally Jones, y Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd. Wrth siarad ar ôl y cyflwyniad, dywedodd Lillian ei bod yn "hynod falch" o fod wedi ennill ac roedd yn rhyfeddu o ran sut roedd ei dyluniad wedi'i drawsnewid.

Rhoddodd Sally Jones ganmoliaeth i Lillian a'r ymgeiswyr eraill, gan ddweud: "Roedd safon y ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth hon yn anhygoel - mae gennym ddisgyblion talentog iawn ledled Sir Benfro.

“Roedd dyluniad Lillian yn feddylgar, yn cyflawni'r briff ac yn drawiadol. Dylai hi fod yn falch iawn o'i gwaith ac rydym yn llawn cyffro i ddechrau defnyddio'r logo o hyn ymlaen."

Nodiadau i olygyddion

Pennawd: Mae Lillian, enillydd y gystadleuaeth, wedi ei llunio gyda swyddog Diogelwch Ffyrdd y Cyngor Sally Jones.