
Llwyddiannau chwaraeon yn cael eu dathlu yng Ngwobrau Chwaraeon Sir Benfro 2023
Sporting achievements celebrated at the Sport Pembrokeshire Awards 2023
Dathlwyd llwyddiannau rhyfeddol cymuned chwaraeon Sir Benfro mewn seremoni wobrwyo ddisglair nos Wener, Tachwedd 24ain.
Cynhaliwyd Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro 2023 yn Fferm Ffoli a thalwyd teyrnged i ymdrechion ar y cae ac oddi ar y cae gan bobl, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr chwaraeon.
Derbyniwyd y nifer uchaf erioed o enwebiadau wrth i’r gwobrau barhau i fynd o nerth i nerth.
Roedd gan y beiriniaid dasg hynod anodd i gwtogi’r niferoedd yn gyntaf i lawr i’r rhai oedd yn cyrraedd y rownd derfynol ac yna i’r enillwyr haeddianol.
Enillydd y Wobr Cyflawniad Oes oedd y seren rasio cerdded Heather Warner sydd wedi cynrychioli Cymru a Thîm GB ar y lefelau uchaf.
Yn aelod o Pembrokeshire Harriers, buan y gwnaeth Heather ddarganfod dawn naturiol am rasio cerdded ac nid oedd yn syndod bod casgliad o deitlau lleol a chenedlaethol i ddilyn.
Roedd festiau Cymru a Thîm GB ar lefel iau ac uwch yn ddilyniant naturiol yn ei gyrfa.
Daeth Harriet yn y seithfed safle yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2018 ar Arfordir Aur Awstralia a dilynodd record Brydeinig yn Birmingham bedair blynedd yn ddiweddarach i gyd-fynd â chweched safle gwych.
Tra’n cystadlu o gwmpas y byd mae Heather wedi parhau i hyfforddi yn Pembrokeshire Harriers ac wedi trosglwyddo ei gwybodaeth a’i phrofiad eang ac mae hi’n enillydd teilwng o’r Wobr Cyflawniad Oes ar gyfer 2023.
“Gall llwyddiant rhagorol Heather, ynghyd ag awydd amlwg i arwain eraill un diwrnod, ond helpu i godi proffil y gamp mewn ffordd gadarnhaol,” meddai Geoff Williams o BBC Wales, a gyflwynodd y wobr i Heather.
Enillydd Gwobr Cyflawniad Arbennig y Cadeirydd, a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Thomas Tudor, oedd Makala Jones.
Mae Makala wedi dysgu hyder dŵr oer a thechneg nofio priodol i bobl ddi-rif o bob oed yn Sir Benfro, gan eu galluogi i fwynhau’r arfordir drwy gydol y flwyddyn. Llwyddodd hefyd i nofio’r Sianel ar ei phen ei hun ym mis Gorffennaf eleni.
Mae hi wedi cael ei disgrifio fel ysbrydoliaeth, arwr go iawn, hwyl i fod o’i chwmpas, model rôl sy’n profi y gallwch chi wireddu eich breuddwydion a bod dynol hynod gryf a chymwynasgar.
Wrth gyflwyno ei gwobr, dywedodd y Cynghorydd Tudor mai’r hyn sy’n ei gwneud mor arbennig yw ei brwdfrydedd dros rannu manteision nofio awyr agored ar gyfer gwell iechyd meddwl.
Eleni enillwyd y Wobr Ysgol gan Ysgol Penrhyn Dewi.
Gwnaeth yr ystod eang o chwaraeon a gweithgareddau a ddarparwyd gan Ysgol Penrhyn Dewi argraff ar y beirniaid a sut mae’r ysgol yn ganolbwynt ar gyfer iechyd a lles chwaraeon yng nghymued Tŷ Ddewi a’r ardaloedd cyfagos.
Dan arweiniad y Pennaeth Rachel Thomas a Phennaeth Lles Bruce Evans, mae pobl ifanc yn cael y cyfle i roi cynnig ar amrywiaeth eang o chwaraeon a gweithgareddau i ymgorffori cariad at gadw’n actif a diogelu’r amgylchedd naturiol o oedran cynnar.
Roedd hi’n noson arwyddocaol hefyd gyda’r cyhoeddiad y byddai arweinydd y seremoni Bill Carne yn ymddeol ar ôl 17 mlynedd yn cyflwyno’r gwobrau.
Talodd Matt Freeman deyrnged i’w ymroddiad a’i broffesiynoldeb dros y blynyddoedd.
“Mae Bill Carne wedi dod yn gyfystyr â Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro ac mae’n cael ei ystyried yn briodol fel llais chwaraeon yn Sir Benfro,” meddai.
“Mae’n anrhydedd gwirioneddol i Chwaraeon Sir Benfro fod wedi cael ei gefnogaeth yn y gwobrau am yr holl flynyddoedd hyn ynghyd â’i gefnogaeth ehangach i eirol a chodi proffil y gwaith mae tîm Chwaraeon Sir Benfro yn ei wneud ledled y sir.
“Gall Bill nawr gilio o’r llwyfan a mwynhau’r noson o’r gynulleidfa a mwynhau gwledd gwobrau Chwaraeon Sir Benfro.”
Mae’r enillwyr fel a ganlyn:
- Cyflawniad Chwaraeon Merched (Dan 16): Josie Hawke
- Cyflawniad Chwaraeon Bechgyn (Dan 16): Ramon Rees-Siso
- Clwb y Flwyddyn: Clwb Criced Penfro
- Gwobr Chwaraeon Anabledd Iau: Saskia Webb
- Gwobr Chwaraeon Anabledd: Bleddyn Gibbs
- Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn: Elizabeth Clissold
- Cyflwyniad Tîm y Flwyddyn Iau (Dan 16): Sharks De Penfro Dan 14
- Arwr Tawel: Dave Astins
- Cyflawniad Tîm y Flwyddyn: Clwb Pêl-droed Hwlffordd
- Cyflawniad Chwaraeon Dynion: Mickey Beckett
- Cyflawniad Chwaraeon Merched: Gracie Griffiths
- Trefnydd Clwb y Flwyddyn: Stefan Jenkins
- Hyfforddwr y Flwyddyn: Samantha Feneck
Y rownd derfynol a’r enillwyr yn nhrefn y wyddor
Cyflawniad Chwaraeon Merched (Dan 16)
Josie Hawke – enillydd
Chloe John-Driscoll
Nina Marsh
Cyflawniad Chwaraeon Bechgyn (Dan 16)
Finley Bruce
Reuben Lerwill
Ramon Rees-Siso - enillydd
Club of the Year
Haverfordwest Tennis Club
Pembroke Cricket Club - winner
Tavernspite Short Mat Bowls Club
Clwb y Flwyddyn
Clwb Tennis Hwlffordd
Clwb Criced Penfro - enillwyr
Clwb Bowlio Mat Byr Tavernspite
Gwobr Chwaraeon Anabledd
Bleddyn Gibbs - enillydd
Michael Jenkins
Jules King
Gwobr Chwaraeon Anabledd Iau
Lewis Crawford
Saskia Webb - enillydd
Ioan Williams
Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn
Elizabeth Clissold - enillydd
Ellie Phillips
Lukas Tyrrell
Cyflawniad Tîm y Flwyddyn Iau (Dan 16)
Pêl-droed Ysgolion Sir Benfro Dan 14
Sharks De Penfro Dan 14 - enillwyr
Tîm Tennis Ysgol Penrhyn Dewi
Arwr Tawel
Dave Astins - enillydd
Piers Beckett
Sam Rossiter
Cyflawniad Tîm y Flwyddyn
Clwb Pêl-droed Hwlffordd - enillwyr
Rygbi Merched Hwlffordd
Ieuenctid Clwb Rygbi Llangwm
Cyflawniad Chwaraeon Dynion
Micky Beckett - enillydd
Jeremy Cross
Moritz Neumann
Cyflawniad Chwaraeon Merched
Katie Dickinson
Gracie Griffiths - enillydd
Seren Thorne
Trefnydd Clwb y Flwyddyn
Rachel Grieve
Stefan Jenkins - enillydd
Huw Jones
Hyfforddwr y Flwyddyn
Sam Feneck - enillydd
Daisy Griffiths
Michael Newman
Gwobr Ysgol
Ysgol Penrhyn Dewi
Gwobr Cyflawniad Arbennig
Makala Jones
Gwobr Cyflawniad Oes
Heather Warner
Nodiadau i olygyddion
E-bostiwch communications@pembrokeshire.gov.uk os hoffech gael lluniau cyflwyno gwobrau ychwanegol.