English icon English
llyfrau

Llyfrgell Dros Dro i agor yng Nghanolfan Gymunedol Bloomfield House Arberth ar ddydd Mawrth, dydd Iau a bore dydd Sadwrn

Temporary Library to open in Narberth’s Bloomfield House Community Centre on Tuesdays, Thursdays and Saturday morning

Bydd Llyfrgell dros dro yn agor yng Nghanolfan Gymunedol Bloomfield House Arberth, o ddydd Mawrth 14 Mawrth 2023.

Bydd y llyfrgell ar agor bob dydd Mawrth, dydd Iau a bore dydd Sadwrn tra bydd llyfrgell gymunedol y dref yn parhau i fod ar gau dros dro.

Mae angen gwneud gwaith cynnal a chadw brys ar adeilad y llyfrgell gymunedol a bydd y llyfrgell dros dro yn sicrhau bod darllenwyr brwd yn parhau i gael gwasanaeth da.

Dywedodd y Maer, Glinys Meredydd: “Mae Cyngor Tref Arberth yn falch bod y Llyfrgell yn Bloomfield nes y bydd adeilad y Llyfrgell yn Stryd San Iago yn barod i gael ei ailagor.”

Mae’r llyfrgell dros dro wedi’i lleoli yng Nghanolfan Ddydd Lee Davies yng Nghanolfan Gymunedol Bloomfield House ar Heol Redstone.

Bydd hwn yn disodli’r gwasanaeth llyfrgell symudol dros dro, sydd wedi bod yn rhedeg o Waun y Dref ar fore dydd Sadwrn a dydd Llun ers mis Ionawr.

Dywedodd Cynghorydd Sir Arberth, Marc Tierney, sydd hefyd yn Gadeirydd Cyfeillion Llyfrgell Arberth (FONL): “Roedd yr uned symudol yn fesur dros dro defnyddiol hyd nes y gellid dod o hyd i leoliad sefydlog. Wrth i waith atgyweirio gael ei wneud yn yr hen lyfrgell, bydd llyfrgell dros dro Canolfan Bloomfield yn cynnig amrywiaeth eang o lyfrau o gasgliad gwreiddiol Arberth, a’r gallu i archebu teitlau o fannau eraill yn Sir Benfro yn ôl yr arfer.”

Dywedodd Anita Thomas, Rheolwr Llyfrgelloedd: “Hoffem ddiolch i'n cydweithwyr yn y Gwasanaethau Cymdeithasol a rheolwyr Bloomfield, am gytuno'n hael iawn y gall y llyfrgell dros dro redeg o hanner y gofod sydd ar gael yn y Ganolfan Ddydd.

“Yn ystod ein harhosiad, rydym yn mawr obeithio gweld rhai o’n benthycwyr rheolaidd, ond hefyd rhai wynebau newydd, felly dewch draw – byddem wrth ein bodd yn eich gweld!”

Mae’r staff a’r gwirfoddolwyr yn edrych ymlaen at groesawu defnyddwyr presennol a newydd y llyfrgell i lyfrgell dros dro Canolfan Bloomfield dros yr wythnosau nesaf.

Yr oriau agor yw: 

Dydd Mawrth 10am i hanner dydd a 3pm i 5pm.

Dydd Iau 10am i 1pm a 2pm i 5pm.

Dydd Sadwrn 10am i 1pm.

Mae gan y llyfrgell dros dro amrywiaeth o bob categori a fformat o stoc, gan gynnwys: oedolion, iau, Cymraeg, ffuglen, ffeithiol, clawr caled, clawr meddal, print bras a recordiadau sain.

Mae gwasanaeth llyfrgell Arberth yn bartneriaeth 3 ffordd rhwng Cyngor Sir Penfro, Cyngor Tref Arberth a FONL.