English icon English
Bagiau Bachu’ o gynnyrch mislif

Llyfrgelloedd Sir Benfro i gymryd rhan yng nghynllun ‘Bagiau Bachu’ Urddas yn ystod mislif

Pembrokeshire Libraries taking part in the Period Dignity ‘Grab Bag’ Scheme

Mae Llyfrgelloedd Sir Benfro yn falch o gyhoeddi eu bod yn cymryd rhan yn y cynllun ‘Bagiau Bachu’ Urddas yn ystod mislif i helpu i frwydro yn erbyn tlodi mislif yn ein cymunedau.

Mae trigolion lleol yn gallu casglu ‘Bagiau Bachu’ o gynnyrch mislif am ddim o'r mwyafrif o Lyfrgelloedd Sir Benfro.

Mae’r cynllun eisoes wedi’i dreialu yn Llyfrgell Doc Penfro, ac oherwydd ei lwyddiant aruthrol mae wedi cael ei gyflwyno mewn mwy o leoliadau llyfrgell ar draws y Sir.

Dywedodd Cathy Butler, Cydlynydd Safle Llyfrgelloedd Penfro a Doc Penfro:  “Mae Llyfrgelloedd Sir Benfro yn falch iawn o fod yn cymryd rhan yn y cynllun pwysig hwn, gan helpu i ddarparu cynnyrch mislif am ddim mewn ffordd urddasol.

“Mae’r treial cychwynnol yn Llyfrgell Doc Penfro wedi cael adborth da iawn, a thrwy gynnwys mwy o’n safleoedd llyfrgell rydym yn gobeithio cymryd cam mawr tuag at sicrhau bod tlodi mislif yn perthyn i’r gorffennol. 

“Rydym yn annog unrhyw un a allai fod angen cynnyrch mislif i ddod i unrhyw un o'r lleoliadau sy'n cymryd rhan a gofyn am ‘Fag Bachu’ yn y dderbynfa. ”

Diolch i gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y Grant Urddas yn ystod mislif, bydd Cyngor Sir Penfro yn parhau i weithio gyda phartneriaid lleol i ddarparu cynnyrch mislif am ddim yn y modd mwyaf urddasol posibl i’r rhai mewn angen.

Ceir rhestr lawn o lyfrgelloedd Sir Benfro ar-lein yn https://www.sir-benfro.gov.uk/llyfrgelloedd-a-diwylliant

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn cefnogi urddas yn ystod mislif yn Sir Benfro, ewch i https://www.sir-benfro.gov.uk/tlodi-mislif