Llyfrgelloedd Sir Benfro yn lansio Sialens Ddarllen Haf 2026 – Cyfrolau’n Canu!
Pembrokeshire Libraries launch Summer Reading Challenge 2026 - Read to the Beat!
Mae Llyfrgelloedd Sir Benfro yn falch iawn o wahodd plant a theuluoedd i gymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf: Cyfrolau’n Canu – fydd yn cael ei lansio mewn llyfrgelloedd ledled y sir o ddydd Llun, 20 Gorffennaf.
The Reading Agency sy’n trefnu Sialens Ddarllen yr Haf i annog plant i ddarganfod llawenydd darllen yn ystod gwyliau'r ysgol.
Mae thema gyffrous eleni, Cyfrolau’n Canu, yn dathlu'r cysylltiad pwerus rhwng straeon, cerddoriaeth a chreadigrwydd, gan ysbrydoli plant i archwilio llyfrau trwy rythm, sain a dychymyg.
Mae sialens 2026 wedi'i datblygu mewn partneriaeth ag Universal Music Group UK, gan ddod â hud darllen ac apêl gyffredinol cerddoriaeth at ei gilydd i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ddarllenwyr.
Drwy gydol yr haf, bydd plant yn cael eu hannog i ddarganfod llyfrau newydd, cwblhau sialensau darllen, a mwynhau rhaglen o weithgareddau llyfrgell am ddim sydd wedi'u cynllunio i ddod â straeon yn fyw.
Mae ymchwil yn dangos bod darllen er pleser yn un o'r dangosyddion mwyaf o lwyddiant plentyn yn y dyfodol, gan helpu i fagu hyder, sgiliau llythrennedd, lles a dychymyg.
Fel rhan o'r sialens, bydd Llyfrgelloedd Sir Benfro yn cynnal rhaglen wych o ddigwyddiadau teuluol am ddim, wedi'u hysbrydoli gan gerddoriaeth, gan gynnwys adrodd straeon gyda cherddoriaeth fyw, gweithdai opera, sesiynau crefft creadigol, gweithdai rhythm ac anturiaethau adrodd straeon gwyllt.
Gall plant gofrestru o 20 Gorffennaf mewn unrhyw lyfrgell yn Sir Benfro. Cewch gymryd rhan yn rhad ac am ddim, a gall plant ddarllen unrhyw lyfrau llyfrgell maen nhw'n eu dewis a chasglu gwobrau wrth iddynt gwblhau'r sialens.
P'un a ydyn nhw eisoes yn ddarllenwyr brwd neu'n dechrau ar eu taith ddarllen, mae croeso i bob plentyn. Mae Sialens Ddarllen yr Haf wedi'i chynllunio i wneud darllen yn hwyl, magu hyder ac annog teuluoedd i fwynhau llyfrau gyda'i gilydd trwy gydol y gwyliau.
Digwyddiadau Sialens Ddarllen yr Haf
Gall teuluoedd fwynhau gweithgareddau wythnosol mewn llyfrgelloedd ledled Sir Benfro:
- Llyfrgell Abergwaun – Dydd Mawrth, 2.30pm–3.30pm
- Llyfrgell Hwlffordd – Dydd Gwener, 11.30am–12.30pm
- Llyfrgell Aberdaugleddau – Dydd Gwener, 2.00pm–3.00pm
- Llyfrgell Doc Penfro – Dydd Mercher, 2.00pm–3.00pm
- Llyfrgell Dinbych-y-pysgod – Dydd Mawrth, 10.00am–11.00am
Bydd yr uchafbwyntiau yn cynnwys:
- Carafán o Storïwyr – adrodd straeon hudolus i gyfeiliant cerddoriaeth a chaneuon byw.
- Opera ABC – gweithdai rhyngweithiol lle gall plant ganu, actio, gwisgo dillad ffansi a chreu eu hanturiaethau cerddorol eu hunain.
- Gwnewch Sŵn (Sound Explorers) – sesiynau creadigol i greu offerynnau cerdd o ddeunyddiau bob dydd.
- Bongo's Rhythm Shack gyda'r cerddor cymunedol Bongo Clive – gweithdai rhythm ac offerynnau taro hwyliog, cynhwysol.
- Antur Rhythm Gwyllt – straeon ar thema anifeiliaid, synau a hwyl gerddorol i orffen yr haf.
I gael rhagor o wybodaeth am Sialens Ddarllen yr Haf a digwyddiadau’r haf yn Llyfrgelloedd Sir Benfro, ewch i'ch llyfrgell leol neu dilynwch Llyfrgelloedd Sir Benfro ar y cyfryngau cymdeithasol.